Mater - penderfyniadau

Fire Extinguishers in Private Hire Vehicles

10/03/2023 - Fire Extinguishers in Private Hire Vehicles

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu a Rheoli Pla) adroddiad yn ystyried newid arfaethedig i Amodau Trwydded Cerbydau Hurio Preifat o ran diffoddyddion tân.

 

Tra bod yr amodau ar hyn o bryd yn nodi bod rhaid i gerbydau gario diffoddwr tân powdr sych wedi’i wasanaethu sy’n pwyso o leiaf 2kg, roedd sylwadau gan Weithredwr Hurio Preifat trwyddedig ar leihau i 1kg, a fyddai’n dod â’r Cyngor yn unol â gofynion awdurdodau cyfagos.  Ceisiwyd cyngor gan y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac roedd yn nodi y gallai diffoddwr tân 1 litr fod yn ddigonol ar gyfer cerbydau sal?n hurio preifat a thacsi du, a byddai diffoddwr 2kg yn fwy priodol ar gyfer cerbydau hurio preifat mwy sydd yn cario 9 neu fwy o deithwyr.  Eglurodd y Rheolwr Tîm fel cerbydau trwyddedig y Cyngor sydd yn cario hyd at 8 o deithwyr, neu 9 gan gynnwys y gyrrwr, gallai’r cyngor gael ei ddehongli’r ffordd arall.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais a ddaeth i law a’r cyngor gan Wwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Cafodd y pedwar opsiwn a awgrymwyd a oedd gofyniad i gario diffoddyddion tân gael ei gymesur i gapasiti’r cerbyd neu a ddylai maint penodol fod yn berthnasol i bob cerbyd.  Hefyd gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried diwygio’r amodau i sicrhau bod diffoddyddion tân yn cael eu gosod yn addas o fewn cerbydau.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Mared Eastwood, nid oedd y Rheolwr Tîm yn gallu cadarnhau amlder yr oedd Diffoddyddion Tân yn cael eu trefnu, ond nodwyd bod cario cyfarpar o’r fath yn fesur diogelwch priodol mewn unrhyw fath o weithle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Banks Argymhelliad 1.1 (diffoddyddion tân 1kg o leiaf ar gyfer cerbydau sy’n cario 4 teithiwr, a diffoddyddion tân 2kg ar gyfer cerbydau sydd yn cario 5-8 teithiwr) a oedd yn teimlo’n unol â’r cyngor a roddwyd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, ynghyd ag Argymhelliad 2.  Eiliwyd gan y Cynghorydd Carolyn Preece a ddywedodd y bydd yn dod â’r Cyngor yn unol ag amodau awdurdodau cyfagos fel y nodir yn yr adroddiad hwn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm bod Argymhellion 1.1 a 1.2 yn ymddangos i gyd-fynd â’r cyngor a roddwyd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.  Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Richard Lloyd, dywedodd bod diffoddyddion tân 1.5kg yn aml iawn yn anodd eu canfod.  Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Marion Bateman, eglurodd bod sail resymegol i ddiwygio’r amodau oedd lleihau’r baich ar y gymuned hurio breifat, gan fod rhai gweithredwyr yn teimlo bod diffoddyddion tân 2kg yn rhy fawr mewn cerbydau capasiti llai, a byddai newid yn rhoi opsiwn i gwmniau cerbydau hurio preifat gyda cheir llai i leihau i 1kg, a hefyd yn alinio’r Cyngor gydag awdurdodau eraill.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Steve Copple yr adroddiad.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Lloyd bod y Cyngor yn cadw’r gofyniad cyfredol i gario diffoddyddion tân o leiaf 2kg ym mhob cerbyd (Argymhelliad 1.4).  Fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

Ar ôl ystyriaeth bellach, tynnodd y Cynghorydd Banks ei gynnig cynharach a nododd cefnogaeth i Argymhelliad 1.4.  Ar ôl pleidlais, cafodd Argymhelliad 1.4 ei dderbyn yn unfrydol.

 

Yn ystod y drafodaeth ar Argymhelliad 2, ni awgrymwyd ar eirfa benodol gan ei fod wedi’i gytuno y dylai cyfarpar gael ei osod yn ddiogel ac yn briodol o fewn cerbydau unigol.   Cafodd hyn ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Bateman a’r Cynghorydd Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cyngor yn cadw gofyniad i gyflawni diffoddyddion tân amrywiaeth powdr sych o leiaf 2kg ym mhob cerbyd; a

 

(b)       Bod yr amodau cyfredol yn cael eu diwygio i ychwanegu diffoddyddion tân gael eu gosod yn ddiogel o fewn y cerbyd.