Mater - penderfyniadau
Terms of Reference
16/01/2023 - Terms of Reference
Wrth gyflwyno’r adroddiad, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod strwythur y Prif Swyddogion wedi newid fis Hydref y llynedd a bod angen diwygio’r Cylch Gorchwyl i gyd-fynd â’r newidiadau hynny. Gofynnodd i’r aelodau ddarllen Atodiad 2 ar dudalen 26 o’r adroddiad lle’r oedd y newidiadau wedi’u hamlygu’n goch er cymeradwyaeth y pwyllgor.
Cynigiodd Mrs Lynn Bartlett ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad a eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor o blaid y diwygiadau arfaethedig yn ei gylch gorchwyl fel y’u nodwyd yn Atodiad 2.