Mater - penderfyniadau

North Wales Regional Economic Framework

23/12/2022 - North Wales Regional Economic Framework

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, ceisiodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) sylwadau’r Pwyllgor ar Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru gyda’r bwriad iddo gael ei gefnogi gan y Cabinet yr wythnos nesaf.  Darparodd drosolwg o Uchelgais Gogledd Cymru o ran cyllid, darpariaeth ar draws y rhanbarth ac fe eglurodd bod y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol wedi cael ei sefydlu gan Uchelgais Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru (LlC).   Tynnodd sylw’r Aelodau at Atodiad 1 a oedd yn amlinellu sut y byddai hyn yn datblygu dros y 5 mlynedd nesaf i fynd i’r afael ag adfer yr economi yng Ngogledd Cymru.  Darparodd wybodaeth am y bwlch economaidd a’r cynllun cyflawni a fyddai’n cael ei adrodd i’r pwyllgor.   Byddai unrhyw sylwadau gan y pwyllgor yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet a chadarnhaodd fod pob awdurdod lleol ledled Cymru yn ceisio cymeradwyo’r ddogfen hon.

 

            Yn ôl yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, gyda LlC a chynrychiolwyr o bob awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn cydweithio er lles economaidd y rhanbarth, roedd posibilrwydd i Ogledd Cymru chwarae rôl arweiniol, yn enwedig mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mai un o raglenni Uchelgais Gogledd Cymru oedd ynni carbon isel, a’r prosiect ynni’r llanw ar Ynys Môn oedd y cyntaf.   Gan gyfeirio at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd y byddai pob un o’r Rheolwyr Rhaglen yn bresennol i amlinellu’r gwaith yr oedd pob rhaglen yn ei wneud, gyda’r Rheolwr Tir ac Eiddo yn bresennol ym mis Medi ac y gallai ynni carbon isel fod nesaf.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mike Allport ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod drafft ‘Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru’ yn cael ei argymell i’w gymeradwyo gan y Cyngor.