Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
20/03/2023 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Wrth gyflwyno’r adroddiad i’w gymeradwyo, gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd am farn yr aelodau ynghylch yr eitemau sydd eisoes wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Ychwanegodd y byddai angen ystyried yr Adroddiad Amseriad Cyfarfodydd a’r Adroddiad Strategaeth Gyhoeddus ac y byddai cyfle i’r Aelodau ychwanegu eitemau at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, gan ei fod yn cael ei adolygu ym mhob cyfarfod.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Gillian Brockley.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft a chymeradwyo/ newid yn ôl yr angen; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.