Mater - penderfyniadau
Shared Prosperity Fund
23/12/2022 - Shared Prosperity Fund
Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Ffyniant Gyffredin gan nodi nad oedd rhywfaint o’r wybodaeth ar gael ar hyn o bryd. Mae Rhaglen Llywodraeth y DU wedi disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE, sy’n seiliedig ar refeniw gyda £2.5b o gyllid dros y tair blynedd nesaf. Amlinellodd yr amserlen dynn rhwng y rhyddhad dechreuol a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Roedd gofyn i Ogledd Cymru gyflwyno Strategaeth ar gyfer Datblygu Rhanbarthol erbyn 1 Awst, ac fe esboniodd sut y gellid defnyddio’r arian hwn. Yna, darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth fanwl am y Blaenoriaethau, a oedd yn agored i newid, ar gyfer pob un o’r tair thema, cymuned a lle, cefnogaeth a roddir i fusnesau lleol a phobl a sgiliau. Hefyd, darparodd wybodaeth am y cyllid o £10.8m a nododd y byddai recriwtio’r aelodau staff a oedd eu hangen i gyflawni hyn yn her. I gloi, cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y byddai hyn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf gyda chymeradwyaeth LlC ym mis Hydref. Cadarnhaodd y byddai hyn yn dod yn ôl i’r pwyllgor yn dilyn cymeradwyaeth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi bod y sefyllfa yn newid o hyd a bod yr un tîm hefyd yn gysylltiedig â’r cais i’r Gronfa Ffyniant Bro. O ran cyllid, roedd Sir y Fflint yn yr ugeinfed safle o 22 awdurdod ac felly roedd yn teimlo’n ddigalon bod y swm o £10.8m dros dair blynedd mor isel.
Wrth ymateb i’r cwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio bod yn rhaid cyflwyno’r Blaenoriaethau erbyn 1 Awst a byddent yn nodi pa ymyriadau yr hoffai’r Cyngor eu dewis o’r rhaglen. Hyrwyddwyd y gweithdai drwy Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a phartneriaid, a daeth 20 o gyfranogwyr i bob un. Roedd y sefyllfa yn parhau i fod yn aneglur o ran y dadansoddiad ariannol a byddai’r gwaith i nodi pa brosiectau oedd yn bodloni’r meini prawf yn parhau. Y Cabinet fyddai’n arwain hyn, ond byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor eto yn yr hydref. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio bod Llywodraeth y DU wedi gosod y mecanwaith ar gyfer hyn ond bod Awdurdodau Cymru yn cael mwy o gyllid na’u cymdogion yn Lloegr, oherwydd bod hon yn rhaglen fwy yng Nghymru. Wedi dweud hynny, roedd y cyllid wedi’i anelu’n bennaf at Orllewin Cymru a’r Cymoedd.
Cafwyd trafodaeth ac fe gytunodd y Cynghorydd Mike Peers a’r Pwyllgor i newid geiriad yr argymhelliad i “Bod Aelodau yn adolygu’r cyfle a gyflwynwyd gan raglen Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r gwaith a wnaed hyd yma a byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod Craffu yn y dyfodol.”
Cafodd yr argymhelliad, fel y’i diwygiwyd, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mike Peers a Mike Allport.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn adolygu’r cyfle a gyflwynwyd gan raglen Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r gwaith a wnaed hyd yma a byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod Craffu yn y dyfodol.