Mater - penderfyniadau

Shared Prosperity Fund

26/05/2023 - Shared Prosperity Fund

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr eitem gan egluro y byddai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu buddsoddiad o £2.5 biliwn hyd at fis Mawrth 2025 ar draws y DU. Nod y rhaglen oedd “meithrin balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd”. Roedd Llywodraeth y DU wedi dyrannu £126 miliwn i Ogledd Cymru i ddarparu’r rhaglen rhwng 2022/23 a 2024/25 ac roedd £10.8 miliwn wedi’i ddyrannu i Sir y Fflint ar gyfer y rhaglen graidd.

 

Roedd Llywodraeth y DU wedi gosod amserlen heriol o 16 wythnos i ddatblygu a chyflwyno Strategaeth Fuddsoddi ar lefel uchel ar gyfer y rhaglen. Y dyddiad cau oedd 1 Awst 2022 ac amcangyfrifwyd y byddai angen dechrau darparu’r rhaglen ym mis Medi 2022.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad yn rhoi amlinelliad o’r rhaglen, crynodeb o’r gwaith a wnaed hyd yma i baratoi ar ei chyfer a’r camau nesaf sydd eu hangen i fodloni gofynion Llywodraeth y DU i ganiatáu i’r cyllid gael ei dalu. Y blaenoriaethau buddsoddi a nodwyd gan Lywodraeth y DU oedd:

 

·         Cymuned a Lle

·         Cefnogi Busnesau Lleol

·         Pobl a Sgiliau

 

Roedd dyraniad cyllideb rhanbarthol ar gael gan Lywodraeth y DU ac roedd y manylion yn yr adroddiad. Wrth ymateb i sylw, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n tynnu sylw Llywodraeth y DU o ran dyrannu’r cyllid gan fod awdurdod cyfagos yn cael dwywaith cymaint y pen â Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo datblygiad pellach rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir y Fflint ac yn rhanbarthol drwy fewnbwn swyddogion, yn unol â’r egwyddorion a nodir yn yr adroddiad;

 

(b)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir y Fflint i gael eu cynnwys yn y Strategaeth Fuddsoddi ranbarthol i ganiatáu i’r cyllid gael ei dalu;

 

(c)        Cefnogi’r cynnig i ofyn i Gyngor Gwynedd weithredu fel corff arweiniol i gyflwyno’r Strategaeth Fuddsoddi ranbarthol i Lywodraeth y DU ac i arwain darpariaeth y rhaglen wedi hynny; ac

 

(d)       Ysgrifennu at Lywodraeth y DU am ddyrannu’r cyllid, gan fod awdurdod cyfagos yn cael dwywaith cymaint y pen â Sir y Fflint.