Mater - penderfyniadau
Annual Review of Fees and Charges 2022
26/05/2023 - Annual Review of Fees and Charges 2022
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem ac eglurodd bod yr adolygiad o ffioedd a thaliadau 2022 wedi’i gwblhau yn unol â Pholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor sy’n nodi'r rhesymeg a'r broses ar gyfer adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau. Roedd canlyniad yr adolygiad wedi’i nodi yn atodiad yr adroddiad a byddai’n berthnasol o 1 Hydref 2022.
Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod y Polisi Cynhyrchu Incwm wedi cael ei ddiweddaru i roi mwy o eglurder am rolau a chyfrifoldebau yn dilyn argymhellion gan Archwilio Mewnol yn 2022. Atodwyd fersiwn tri diwygiedig o’r polisi i’r adroddiad ac argymhellwyd ei gymeradwyo.
Hefyd, amlinellodd yr adroddiad ofynion parhaus yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2023, yn enwedig y ffioedd a thaliadau nad oedd eto wedi dangos eu bod wedi adfer y gost yn llawn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r rhestr o ffioedd a thaliadau a amlinellwyd yn Atodiad A i’w rhoi ar waith ar 1 Hydref 2021;
(b) Cymeradwyo fersiwn tri ddiwygiedig y Polisi Cynhyrchu Incwm; a
(c) Bod fersiwn hawdd ei ddefnyddio o’r amserlen ffioedd a thaliadau’n cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi.