Mater - penderfyniadau

Food Service Plan 2022-23 for Flintshire County Council

23/12/2022 - Food Service Plan 2022-23 for Flintshire County Council

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), fod hyn yn ddychweliad i’r drefn arferol.  Roedd yr awdurdod yn ffodus iawn o fod wedi gallu cadw tîm mor brofiadol o swyddogion ac roedd hefyd wedi recriwtio swyddogion eraill a oedd wedi darparu cefnogaeth ar draws y Cyngor. 

 

Dechreuodd y Rheolwr Diogelu’r Gymuned a Busnesau ac  Arweinydd y Tîm Diogelwch Bwyd ar y cyflwyniad a oedd yn cynnwys sleidiau ar y canlynol: -

 

·         Cynllun y Gwasanaeth Bwyd 2022 – 2023

·         Cefndir

Ø   Mae Cynllun y Gwasanaeth Bwyd yn cynnwys Diogelwch Bwyd, Safonau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid

Ø   Mae’r Cynllun yn ofyniad blynyddol o’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol gan Awdurdodau Lleol.

Ø   Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid gyda Chanllawiau Ymarfer cysylltiedig sy’n llywodraethu beth rydym yn ei wneud, pryd a sut.

Ø   Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cynnwys Clefydau Trosglwyddadwy ac elfennau eraill o ddeddfwriaeth Safonau Masnach.

 

·         Cynllun Adfer Bwyd

·         Sylfaen ofynnol y Cynllun Adfer

·         Adolygiad o 2021-2022

 

Ø   Cyflawnwyd yr holl archwiliadau a oedd wedi’u trefnu yn unol â’r Cynllun Adfer ar gyfer Diogelwch a Safonau.

Ø   Busnesau newydd - archwiliwyd 91.4% o’r holl fusnesau newydd ar gyfer Hylendid a 88.6% ar gyfer Safonau.

Ø   Codwyd y ffigwr ‘Cydymffurfio’n Fras’ i 98.5%.

Ø   Symudwyd yn gynt na’r cynllun adfer mewn perthynas â Chategori B ac C Hylendid Bwyd a Chategori A-C Ymyriadau Safonau Bwyd.

Ø   Ni chwblhawyd yr holl ymyriadau bwyd anifeiliaid ar ffermydd - cwblhawyd ymyriadau ar 32 o 50 safle.

Ø   Archwiliwyd dogfennaeth pysgod cregyn o Aber Afon Dyfrdwy yn fanwl i wella cydymffurfiaeth ac olrhain yn y diwydiant pysgod cregyn.

 

·         Ymrwymiadau ar gyfer 2022 – 2023

 

Ø   Holl archwiliadau Hylendid Bwyd (Risg Uchel) Categori A, B ac C.

Ø   Holl archwiliadau Hylendid Bwyd nad ydynt yn cydymffurfio’n fras Categori D.

Ø   Holl archwiliadau Safonau Bwyd (Risg Uchel) Categori A a’r holl safleoedd Categori B sydd hefyd angen archwiliad Hylendid Bwyd.

Ø   Archwilio Hylendid a Safonau 90% o’r holl fusnesau newydd.

Ø   Bwyd Anifeiliaid - 72 o ymyriadau fferm a 40 safle risg uchel ar draws yr ystod o fathau busnes bwyd anifeiliaid.

·           Crynodeb

 

            Roedd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd yn falch bod hyn yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor.  Roedd y gwaith a wnaed gan y tîm yn ystod y pandemig yn arbennig, ac ni fuasai tracio ac olrhain wedi bod yn weithredol hebddynt.  Tynnodd sylw’r aelodau at dudalen 117 a oedd yn rhestru’r 1,452 o leoliadau bwyd yn Sir y Fflint, ac roedd ar bob un ohonynt angen un archwiliad y flwyddyn.  Roedd yr adroddiad blynyddol yn darparu sicrwydd bod y broses ‘o’r pridd i’r plât’ yn dal ar waith, diolch i waith parhaus y tîm ac roedd wir yn glod iddynt mai pur anaml oedd problemau yn codi. 

 

            Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf, gydag argymhelliad y Pwyllgor y dylid ei fabwysiadu.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mike Allport ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Cynllun y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer 2022-23 yn cael ei argymell i’w fabwysiadu.