Mater - penderfyniadau
Rolling Review of the Constitution
01/09/2023 - Rolling Review of the Constitution
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod y Pwyllgor yn gyfrifol am adolygu codau a phrotocolau amrywiol i sicrhau eu perthnasedd. Cynhelir hyn unwaith y tymor ac fe gyfeiriodd yr Aelodau at yr amserlen a gynigiwyd ar dudalen 126.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at God Ymddygiad yr Aelodau a restrwyd ar gyfer mis Rhagfyr 2022 a cheisio eglurhad gan ei fod hefyd wedi’i restru ar gyfer mis Gorffennaf 2023. Cytunwyd y dylid symud y mater i gyfarfod mis Tachwedd 2022.
Holodd David Davies a fyddai hyfforddiant ar gael ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor, yn enwedig ar gyfer y Protocol Cynllunio a Chod Ymddygiad yr Aelodau. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai hyfforddiant yn cael ei gynnwys ym mhob adroddiad sy’n cael ei adolygu.
Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan Gill Murgatroyd a’i eilio gan Jacqueline Guest.
PENDERFYNWYD:
Mabwysiadu’r amserlen ar gyfer adolygu codau a phrotocolau.