Mater - penderfyniadau

Adoption of Discretionary Cost of Living Support Scheme and Policy Framework

26/05/2023 - Adoption of Discretionary Cost of Living Support Scheme and Policy Framework

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr eitem ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Cymorth Costau Byw yn ddiweddar, oedd yn darparu grantiau i aelwydydd i helpu gyda chostau cynyddol biliau ynni. Roedd y pecyn o fesurau’n cynnwys £6.99 miliwn yn y prif gynllun i ddarparu grant o £150 i tua 46,670 o aelwydydd cymwys ym Mandiau Treth y Cyngor A i D ynghyd â’r aelwydydd hynny ym Mandiau Treth y Cyngor A i I oedd yn derbyn Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor.

 

Yn ogystal â’r £6.99 miliwn, roedd £1.15 miliwn ar gael i’r Cyngor i ddarparu cymorth disgresiynol ac i gefnogi aelwydydd eraill oedd fwyaf angen cymorth ariannol yn eu tyb nhw, neu a fyddai hefyd yn cael eu heithrio o gael cymorth drwy’r prif gynllun. Roedd gan awdurdodau lleol ymreolaeth lwyr i dargedu’r cyllid i gefnogi preswylwyr a ystyrir eu bod angen cymorth gyda’u costau byw.

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod yr adroddiad yn nodi meini prawf arfaethedig y cynllun disgresiynol i ddarparu cymorth i aelwydydd nad oedd yn gymwys ar hyn o bryd i gael grant yn y prif gynllun yn ogystal â darparu grant cyflenwol o £125 wedi’i dargedu i aelwydydd y mae eu plant yn cael Prydau Ysgol am Ddim.

 

Roedd rhan fechan o’r Cyllid Disgresiynol hefyd wedi’i glustnodi i gefnogi’r mesurau gwrthdlodi ehangach ac i helpu’r Cyngor fodloni un o’i amcanion lles allweddol (Amddiffyn pobl rhag tlodi drwy eu cefnogi i fodloni eu hanghenion sylfaenol) drwy gefnogi datblygiad parhaus y ganolfan fwyd “Well Fed” fel bod preswylwyr yn gallu cael prydau ffres am brisiau fforddiadwy.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Fframwaith Polisi Disgresiynol a dosbarthu’r cyllid.