Mater - penderfyniadau

Results of the Consultation on the Digital Strategy

26/05/2023 - Results of the Consultation on the Digital Strategy

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr eitem ac eglurodd fod y strategaeth ddiwygiedig yn cynnwys profiadau dysgu, twf ac uchelgais ers i Sir y Fflint Digidol gael ei gyhoeddi i ddechrau yn 2016. Roedd hefyd yn cynnwys fel thema ar wahân amcan i helpu i leihau’r allgau y gallai pobl heb y sgiliau, y dyfeisiadau neu'r cysylltedd angenrheidiol i fanteisio ar wasanaethau digidol ei brofi.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yr ymgynghoriad wedi bod ar agor i bawb a’i fod wedi’i gynnal drwy ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd, y gweithlu a grwpiau defnyddwyr penodol a’i fod wedi’i gyhoeddi ar y wefan. Derbyniwyd 179 o ymatebion, ac roedd pob un ohonynt yn dangos cefnogaeth i nodau ac uchelgeisiau strategol y Cyngor. 

 

Roedd yr adborth yn nodi pedwar prif faes, oedd yn cael sylw’n bennaf fel rhan o brosiectau neu themâu cyffredinol yn y Strategaeth Ddigidol a byddent yn cael eu blaenoriaethu wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.  Y meysydd oedd:

 

·         Cynllunio a gwybodaeth;

·         Cynhwysiant a hygyrchedd;

·         Cysylltedd; a

·         Y wefan a darpariaeth y gwasanaeth.

 

Roedd gr?p gwefan wedi’i ailsefydlu i sicrhau bod y wefan yn cael ei gwella, er enghraifft, diweddaru’r cynnwys ar-lein a chynnal dolenni. Hefyd, byddai’r wefan yn parhau i gael ei symleiddio a’i diweddaru, byddai’r swyddogaeth chwilio’n cael ei wella a byddai ar gael ar bob dyfais, gan nodi bod mwyafrif y rhai sy’n ei defnyddio yn gwneud hynny ar ffonau clyfar.

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad, roedd geiriad ychwanegol wedi cael ei gynnig i gynnwys rhai elfennau o’r adborth ac roedd ymateb drafft wedi’i baratoi ar gyfer ei gyhoeddi. 

 

Roedd y Cynllun Prosiect Strategaeth Ddigidol yn cynnwys rhestr o’r holl brosiectau yn y Strategaeth Ddigidol oedd wedi’u neilltuo i thema ac oedd yn cael eu hadrodd arnynt. Roedd hefyd yn casglu costau’r prosiectau ar gyfer cynllunio ariannol. Atodwyd y strategaeth ddiwygiedig i’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Croesawu canlyniadau’r ymgynghoriad;

 

(b)       Bod y Strategaeth Ddigidol ddiwygiedig ar gyfer 2021-2026 yn cael ei gymeradwyo gyda’r addasiadau ychwanegol a awgrymwyd yn yr adroddiad;

 

(c)        Bod y Prif Swyddog (Llywodraethu) yn cael awdurdod i derfynu’r polisi mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Lywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol yn cynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol.