Mater - penderfyniadau

Supplementary Financial Information to Draft Statement of Accounts 2021/22

04/11/2022 - Supplementary Financial Information to Draft Statement of Accounts 2021/22

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y wybodaeth ariannol atodol sy’n cyd-fynd â Datganiad Cyfrifon drafft 2021/22, yn unol â’r cais a wnaed yn y Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2013.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), eglurhad ar y broses ar gyfer awdurdodi penodi staff ac ymgynghorwyr dros dro.

 

 Gofynnodd y Cadeirydd am y cynnydd mewn gwariant ar staff dros dro a chymhariaeth â chynghorau eraill.  Awgrymodd swyddogion mai problem recriwtio a chadw staff genedlaethol yw hon o bosib.  Cytunwyd y dylid gofyn am ymateb gan y Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) a bod hwn yn cael ei anfon at y Pwyllgor ar e-bost.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’i eilio gan y Parch Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.