Mater - penderfyniadau
End of Year Performance Monitoring Report
05/10/2022 - End of Year Performance Monitoring Report
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2021/22. Ar y cyfan roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol o ystyried yr heriau o’r sefyllfa argyfyngus, gyda 73% o’r dangosyddion perfformiad perthnasol i’r Pwyllgor wedi bodloni neu ragori eu targedau (gwyrdd) a dim yn dangos diffyg perfformiad yn erbyn y targedau (coch).
Wrth gyfeirio at y dangosyddion perfformiad coch tu allan i gylch gwaith y Pwyllgor hwn, holodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am gynnydd tai cymdeithasol. Ar y camau gweithredu’r Sector Rhentu Preifat, awgrymodd y dylai oedi mewn recriwtio i’r tîm i gefnogi tenantiaid y sector preifat, fod yn statws coch ac y gallai’r dewis i gynnwys cyrff cynrychioli tenantiaid neu’r trydydd sector gael ei archwilio. O dan yr Amgylchedd, dywedodd fod y swm o ddangosyddion perfformiad coch o’i gymharu â gwyrdd yn ymddangos yn gamarweiniol gan fod tystiolaeth o gynnydd da.
Awgrymodd y Cadeirydd fod yr 11 dangosydd perfformiad coch o dan gylch gwaith pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill yn cael eu cyfeirio’n briodol.
Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Ibbotson, cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau wedi ystyried y dangosyddion perfformiad tai yn ddiweddar a chytunodd y byddai’n darparu diweddariad ar wahân ar y sefyllfa bresennol o ran recriwtio i’r tîm sector preifat.
Awgrymodd y Cadeirydd adolygiad o dargedau ar rai mesurau er mwyn sicrhau eu bod yn heriol ac yn gyflawnadwy, er enghraifft, cyfartaledd diwrnodau i brosesu newid mewn amgylchiadau ar gyfer budd-daliadau tai a gostyngiad yn Nhreth y Cyngor (Tlodi Incwm) ac ystadegau defnydd o adnoddau ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc (Tlodi Plant). Holodd am ganlyniad y nifer a gofrestrodd ar y Cynllun Cefnogwyr Digidol (Tlodi Digidol) a chyflwyniad y data siart ar fesurau perfformiad ar gyfer Tai Fforddiadwy a Hygyrch. Ar y camau gweithredu Adfywio Canol Trefi, dywedodd ei bod yn bwysig fod dyluniad dref yn ffurfio rhan o wella amgylchedd canol trefi.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ron Davies a Jason Shallcross.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawniadau’r blaenoriaethau o fewn Cynllun y Cyngor 2021/22.
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2021/22; a
(c) Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.