Mater - penderfyniadau

End of Year Performance Monitoring Report

16/01/2023 - End of Year Performance Monitoring Report

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad, a oedd yn cynnwys crynodeb o’r cynnydd a wnaed erbyn diwedd 2021/22 wrth gyflawni blaenoriaethau Cynllun y Cyngor fel y bônt yn berthnasol i’r portffolio Addysg ac Ieuenctid.  Roedd yr adroddiad yn un cadarnhaol dros ben ac yn dangos y cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r blaenoriaethau.  Gofynnodd i’r aelodau droi at dudalen 69 a oedd yn cynnwys yr amryw dargedau, y rhan helaeth ohonynt yn wyrdd ac ychydig yn oren.

 

Holodd y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â’r targedau a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod a wnelo’r rhain â phresenoldeb a gwaharddiadau, gan egluro na chasglwyd y targedau wedi i Lywodraeth Cymru roi’r mesuryddion perfformiad o’r neilltu oherwydd y pandemig.  Cadarnhaodd y cofnodwyd data lleol yr awdurdod ynghylch presenoldeb a gwaharddiadau fel data heb eu gwirio a’u bod wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ar y sail honno, a chytunodd y byddai’n cyfleu sylwadau’r Cynghorydd Mackie i’r tîm.   Nid oedd Llywodraeth Cymru’n mynnu bod yr awdurdod yn pennu targedau, ond dywedodd fod y rhain wedi’u gosod ar gyfer y flwyddyn gyfredol ac y byddai’r adroddiad cryno’n rhoi’r cyd-destun. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Carolyn Preece i’r tîm am adroddiad trylwyr ac ardderchog, a rhoes glod i’r tîm, yr ysgolion a’r staff am y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig ac yn ei sgil.  Cytunodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y byddai’n cyfleu’r diolchiadau i’r tîm a’r ysgolion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham fod meddu ar y wybodaeth yn galluogi craffu effeithiol, ac edrychai ymlaen at adroddiadau â mwy o wybodaeth wrth i bethau fynd yn ôl i’r arfer ar ôl y pandemig.   Roedd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn falch bod aelodau’r pwyllgor yn craffu ar hyn gan ei bod yn broses bwysig.  Dywedodd eto y gallai unrhyw aelod gysylltu â hi unrhyw bryd i drafod unrhyw bryderon.

 

Cytunodd y Cynghorydd Gladys Healey â sylwadau’r Cynghorydd Mackie a mynegodd bryderon dybryd ynghylch tai a thlodi.  Yn yr hinsawdd oedd ohoni gyda biliau’n mynd yn uwch, byddai hyn yn gwaethygu problemau tlodi, er ei bod yn deall y wasgfa ar gyllidebau.  Gofynnodd a fedrai’r Arweinydd gyflwyno achos i Lywodraeth Cymru am ragor o arian i gefnogi pobl mewn tlodi.

 

 Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y pwyllgor yn cynnwys Cynllun newydd y Cyngor, a bod holl bortffolios y Cyngor yn cyfrannu at Dlodi.  Soniodd am y cynllun Tlodi Plant, Well Fed a’r taliadau dewisol ychwanegol yr oedd y Cabinet wedi’u cymeradwyo yn ddiweddar.  Roedd yno gyfrifoldeb corfforaethol i fynd i’r afael â’r effeithiau ar blant a theuluoedd, ond roedd rhai o’r problemau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.

 

Rhoes yr Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden sicrwydd i’r aelodau eto ei fod yn cyflwyno’r ddadl yngl?n â hyn i Lywodraeth Cymru’n gyson.  Cytunodd â sylwadau’r Prif Swyddog yngl?n â’r ymateb corfforaethol, a rhoes glod i’r ysgolion am y gwaith arwyddocaol yr oeddent yn ei wneud gyda phethau fel gwisg ysgol a chlybiau brecwast, a oedd yn galluogi plant i gael brecwast gwerth chweil ac wedi gwella lefelau presenoldeb.   Soniodd am gynlluniau corfforaethol y Cyngor yn hyn o beth yn ogystal â’r cynlluniau rhagorol yr oedd y sector gwirfoddol yn eu darparu, a dywedodd y byddai hyn oll yn arwain at y canlyniadau gorau posib.

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie ddilyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd Mrs Lynn Bartlett y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Bod y Pwyllgor yn croesawu’r cynnydd a wnaed ac yn ffyddiog y cyflawnid blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2021/22;

 

(b)         Bod y Pwyllgor yn croesawu’r perfformiad cyffredinol yn ôl dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2021/22; a

 

(c)          Bod y pwyllgor yn fodlon ar yr esboniadau a roddwyd ar gyfer y meysydd lle bu tanberfformiad.