Mater - penderfyniadau

Welsh Government Guidance on the duty of Group Leaders to promote Ethical Behaviour

05/08/2022 - Welsh Government Guidance on the duty of Group Leaders to promote Ethical Behaviour

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad ac eglurodd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd newydd ar Arweinwyr Grwpiau i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel ymysg aelodau eu grwpiau.  Pennwyd dyletswydd newydd hefyd yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf.

 

Mae’n rhaid i Arweinwyr Grwpiau a’r Pwyllgor ystyried y canllawiau statudol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Roedd y Pwyllgor eisoes wedi ystyried y canllawiau hynny ar ffurf drafft cynnar.  Cyhoeddwyd drafft arall o’r canllawiau er ymgynghoriad yn gynharach yn y flwyddyn; roeddent yn bur debyg i’r canllawiau blaenorol wrth gynnig ffyrdd y gallai Arweinwyr Grwpiau hyrwyddo ymddygiad da, ac awgrymu y byddent yn dwyn anfri ar eu swyddi pe byddent yn methu â gwneud hynny.  Un gwahaniaeth gwerth ei nodi oedd y swyddogaeth adrodd, a oedd yn llai manwl bellach.

 

Dechreuodd yr ymgynghoriad ym mis Chwefror a daeth i ben ym mis Mai oddeutu’r un pryd â’r cyfnod cyn etholiadau.  Hwn felly oedd y tro cyntaf y gellid cyflwyno’r canllawiau drafft i’r Pwyllgor.

 

Atodwyd copi o’r adroddiad templed i’r adroddiad ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ffurf drafft.  Cynhelid trafodaeth am y canllawiau statudol ag Arweinwyr y Grwpiau ar 27 Mehefin 2022.

 

Penderfynwyd cyflwyno’r ymatebion drafft i’r ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru gan egluro pam roedd yr ymateb yn hwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r canllawiau arfaethedig, a

 

(b)       Chyflwyno’r ymatebion drafft i’r ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru gan egluro pam roedd yr ymateb yn hwyr.