Mater - penderfyniadau
All Wales Standards Conference 2022 Report Back
01/09/2023 - All Wales Standards Conference 2022 Report Back
Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cynhelir y cynadleddau bob dwy flynedd, ond bod cynhadledd 2020 wedi’i gohirio tan eleni. Trefnwyd y cynadleddau gan y swyddogion monitro ym mhob rhanbarth, a thro Gogledd Cymru oedd hi eleni. Adroddiad Penn oedd y canolbwynt a dyma’r adolygiad mwyaf a’r manylaf o’r Cod Ymddygiad ers ei gyflwyno gyda Deddf Llywodraeth Leol 2000.
Darparodd drosolwg manwl o’r gynhadledd a chrynodeb o’r argymhellion a’r penderfyniad a wnaed, gyda rhannau yn gofyn am newidiadau i ddeddfwriaeth a rhannau y gellir eu mabwysiadu’n wirfoddol. Cynhelir trafodaeth dros yr haf gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ar y newidiadau i’r ddeddfwriaeth.
Argymhellodd y Cadeirydd bod aelodau’r Pwyllgor yn mynychu’r nesaf i wrando ar safbwyntiau awdurdodau eraill, yr Ombwdsmon a siaradwyr eraill. Darparodd adolygiad manwl o’r cyflwyniadau, y testunau a drafodwyd a rhannu arferion gorau a oedd yn cynnwys trafodaeth am y Cod Ymddygiad. Recordiwyd y gynhadledd, a holodd y Cadeirydd a oedd modd rhannu’r fideo. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai Gwynedd a gynhaliodd y sesiwn dros Zoom a byddai’n holi. Cynhelir y gynhadledd nesaf yn Ne Cymru yn 2024.
Roedd Gill Murgatroyd wedi mynychu’r gynhadledd hefyd, gan nodi ei bod yn llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol. Cyfeiriodd at y trafodaethau gyda Phanel Dyfarnu Cymru a chynrychiolwyr LlC? o ran terfynau amser ar gyfer argymhellion Adolygiad Penn a holodd a oedd gan y Swyddog Monitro sylwadau am hyn. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n cyfarfod gyda LlC a swyddfa’r Ombwdsmon dros yr haf i drafod sut y gellir symud ymlaen a’u gweithredu.
Holodd David Davies a oedd unrhyw awgrym o ran a fyddai LlC yn derbyn holl argymhellion Penn neu a fyddai gwrthwynebiad gwleidyddol. Eglurodd y Swyddog Monitro bod Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol wedi mynychu ond na roddodd unrhyw syniad o ran y tebygolrwydd y byddant yn derbyn yr argymhellion penodol yn dilyn trafodaethau gyda’r budd-ddeiliaid yr effeithir arnynt.
Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan Jacqueline Guest a’i eilio gan Gill Murgatroyd.
PENDERFYNWYD:
Y croesawyd yr adroddiad ar y gynhadledd a bod y Pwyllgor yn cytuno i ymgorffori’r gwaith sy’n codi yn dilyn Adolygiad Penn o’r Drefn Foesegol yn y rhaglen waith wrth iddynt ddod i’r amlwg.