Mater - penderfyniadau
Internal Audit Strategic Plan
21/06/2022 - Internal Audit Strategic Plan
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Cynllun Strategol Archwilio Mewnol tair blynedd ar gyfer 2022-2025 oedd wedi ei lunio gan ddefnyddio mapio gwarant, canlyniad gwaith archwilio blaenorol, risgiau newydd a rhai sy’n datblygu ac ymgynghori gydag uwch swyddogion ac Archwilio Cymru. Tra bod pob archwiliad ac adolygiad blynyddol blaenoriaeth uchel wedi cael eu cwblhau yn 2022/23, bydd unrhyw waith i ymateb i faterion/risgiau newydd yn cymryd blaenoriaeth dros adolygiadau blaenoriaeth canolradd a fyddai’n destun adolygiad rheolaidd gyda deiliaid portffolio.
Gan ymateb i gwestiynau gan Sally Ellis, rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg sicrwydd ar gapasiti i gyflawni’r Cynllun oedd yn destun adolygiad rheolaidd. Dywedodd y byddai risgiau o ran costau ynni a byw yn ffurfio rhan o archwiliad Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd Amgylcheddol a bod risgiau ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn cael eu monitro, yn cynnwys casgliadau adolygiadau sicrwydd allanol.
Croesawodd Allan Rainford yr adroddiad a chafodd wybod bod cynlluniau parhad busnes ar gyfer pob portffolio wedi cael eu profi yn ystod y sefyllfa o argyfwng.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Arnold Woolley a'i eilio gan y Cynghorydd Janet Axworthy.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried y meysydd dan sylw, gan gynnwys y rhai a flaenoriaethwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a lefel adnoddau’r archwiliad, mae’r Pwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Strategol Archwilio Mewnol Sir y Fflint ar gyfer 2022-2025.