Mater - penderfyniadau

Flintshire Coast Park

18/08/2022 - Flintshire Coast Park

            Wrth gyflwyno’r adroddiad eglurodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y Cabinet yn gofyn am farn y Pwyllgor ar ddatblygu parc arfordir.

 

            Cadarnhaodd Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol fod y Rhaglen Mynediad at yr Arfordir, a ddechreuwyd yn 2006, wedi arwain at agor Llwybr Arfordir Cymru. Mae gwaith wedi’i wneud i sefydlu’r cyfeiriad strategol ar gyfer mynediad i’r blaendraeth gyda’r syniadau yn cynnwys parc arfordir (y mae TEP Consultancy wedi cynhyrchu prosbectws ar ei gyfer yn 2014). Darparodd drosolwg o’r fframwaith a’r chwe chanolbwynt, ond ni cheir manylion o ran sut y bydd hyn yn cael ei weithredu, ei ariannu a dan ba bortffolio y bydd. Ers 2014 mae sawl prosiect dan nawdd grant wedi bod yn llwyddiannus, a dywedodd fod awch o hyd i’r datblygiad, yn enwedig ar ôl y pandemig, a theimlwyd bod angen archwilio’r parc arfordir eto, gyda’r posibilrwydd o fwrw ymlaen â’r cynlluniau i greu parc rhanbarthol ffurfiol. Amlinellodd fanteision parc arfordirol a beth sydd wedi’i gyflawni yn ystod y degawd diwethaf. Byddai angen ailedrych ar y prosbectws i ddeall beth sydd wedi newid ac mae’r Cyngor wedi cysylltu â’r cwmni a greodd y prosbectws i ymgymryd â’r gwaith cwmpasu yma. Soniodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol am gyfarfodydd a gynhaliwyd gyda swyddogion sydd wedi bod yn ymwneud â’r gwaith diweddar yng Nghymoedd y De, a darparodd wybodaeth am y testunau amrywiol a drafodwyd. Mae dadansoddiad o’r buddion, y meini prawf ar gyfer cynnwys, canfod cyfleoedd wedi’u hariannu gan grantiau a sut y byddai hyn yn bwydo i mewn i gefnogi’r cais i’r Gronfa Ffyniant Bro, oll yn cael eu hystyried.

 

            Roedd ar y Cynghorydd Patrick Heesom eisiau sicrhau bod hyn yn deg ac yn dod â budd i’r sir gyfan. Mewn ymateb, cytunodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol fod yna adnodd gwych o’r Fflint i Dalacre i Saltney, ac ased i’r sir gyfan. Byddwn yn ailedrych ar y chwe chanolbwynt a nodwyd ym mhrosbectws 2014 fel rhan o’r astudiaeth gwmpasu newydd. Eglurodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y ddogfen strategaeth sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yr un fath â’r un ym mhrosbectws 2014. Mae hyn yn derbyn sylw i sicrhau ei fod yn decach ac yn cynnwys yr arfordir cyfan.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a fyddai modd i’r Pwyllgor arwain hyn. Mewn ymateb cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) y byddai’r Cyngor Sir yn arwain y cynnig gan gydweithio gyda phob cyngor cymuned ac aelod lleol ar hyd yr arfordir. Byddai’r Cabinet a’r Pwyllgor hwn yn gallu craffu ar unrhyw ddatblygiad a gynigir, a dyna pam bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’w ystyried.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y Gronfa Ffyniant Bro a gofynnodd a fyddai cost i fusnesau. Canmolodd waith ardderchog ceidwaid yr arfordir a chyfeiriodd at waith yn nociau Cei Connah i dorri’r prysgwydd a’i ymweliad gwych i blannu coed ffrwythau gyda disgyblion uwchradd.

 

            Teimlodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd fod y sir wedi tanwerthu ei hun yn y gorffennol ond, gyda’r Gronfa Ffyniant Bro, bod cyfle i ailedrych ar hyn. Mae yna gyfleoedd i’r parc arfordir a llu o gyfleoedd eraill i gefnogi’r amgylchedd cyfoethog, yn enwedig y dreftadaeth ddiwydiannol. Mae 1.06 ac 1.07 yn amlinellu’r cynigion gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a chynghorau tref a chymuned sy’n rhan o’r gwaith i fanteisio i’r eithaf ar ffrydiau ariannu fel bod y prosiect yn dwyn ffrwyth.

 

            Ategodd y Cynghorydd Sean Bibby y sylwadau a wnaethpwyd a chyfeiriodd at waith ardderchog yn ei ward i glirio’r prysgwydd. Mae hwn yn adroddiad gwych a gyda’r ceisiadau Ffyniant Bro mae cyfle i ddiogelu etifeddiaeth ddiwydiannol a lliniaru’r amddifadedd yn rhai o’r ardaloedd hyn.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at yr AHNE a theimlodd fod angen cynnwys gwelliannau i’r llwybrau a’r meysydd parcio.

 

            Cyfeiriodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Stryd at y map ar dudalen 160 a dywedodd fod y Parlwr Du a Thalacre o chwith. Gan gyfeirio at Dalacre dywedodd fod yr orsaf drenau eisoes yn ei lle, ac y byddai’n wych pe bai pobl o Lerpwl a Manceinion yn gallu ymweld â Thalacre a Gronant ar y trên. Petai’r gorsafoedd trên wedi’u cysylltu o Faes Glas i’r Fflint a Mostyn, dywedodd y byddai pobl o’r ardaloedd hyn yn defnyddio’r trên yn hytrach na’r car. Cyfeiriodd wedyn at dudalen 169 a oedd yn dweud bod uwchgynllun wedi’i lunio ar gyfer Talacre a Gronant yn 2010 a dywedodd fod wedi’i lunio’n ddiweddarach o lawer.

 

            Dywedodd Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio fod yna 25 milltir o arfordir a oedd yn un o gyfrinachau gorau Sir y Fflint. Mae gan yr ardal lawer i’w gynnig, yn cynnwys safleoedd hanesyddol, petai ar gael.

 

            Cyfeiriodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) at bwynt y Cynghorydd Paul Shotton a dywedodd fod y cyswllt rhwng Cei Connah a’r Fflint yn gymhleth iawn gyda gwaith ar y gweill i geisio cael datrysiad. Mae’r pwynt Ffyniant Bro yn cael ei arwain gan Niall Waller gyda therfyn amser yn y gwanwyn. Cadarnhaodd fod modd bwrw ymlaen gyda’r gwaith i ddatblygu Parc Arfordir heb y Gronfa Ffyniant Bro. O ran y Parc Arfordir, nid oes gofynion ar fusnesau i fuddsoddi, ond mae’n bosibl y bydd yn y dyfodol.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr Aelodau yn nodi’r cyfeiriad strategol a geir ym Mhrosbectws y Parc Arfordir ac yn cefnogi’r gwaith i ddatblygu a chreu Parc Arfordir Rhanbarthol Sir y Fflint.

 

(b)       Bod y Cabinet yn croesawu barn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi, ac yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) (mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Datblygu Economaidd) i wneud mân newidiadau i’r cynigion i adlewyrchu’r farn honno.