Mater - penderfyniadau
Social Value
22/03/2022 - Social Value
Fel Aelod Cabinet Cyllid, Gwerth Cymdeithasol a Chaffael, cyflwynodd Paul Johnson adroddiad ar raglen gwerth cymdeithasol y Cyngor a gynlluniwyd i gyflawni canlyniadau gwerth ychwanegol cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol drwy weithgareddau caffael. Canmolodd y canlyniadau positif yn ystod 2021 oedd wedi arwain at gyfraniadau sylweddol i economi a chymunedau lleol Sir y Fflint a siaradodd am y nod o wneud gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o’r sefydliad drwy waith y tîm gwerth cymdeithasol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod hanes blaenorol y Cyngor o ddarparu gwerth cymdeithasol yn cael ei gydnabod yn eang. Cyflwynodd Olivia Hughes, y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol a roddodd gyflwyniad ar y risgiau, heriau a chyfleoedd o fewn y rhaglen gwerth cymdeithasol, yn cynnwys:
· Diffiniad o werth cymdeithasol
· Dangosyddion perfformiad allweddol
· Astudiaethau achos
· Heriau allweddol
· Goresgyn heriau
· Argymhellion i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Amlygodd y cyflwyniad ystod y canlyniadau hyd yma i gymunedau lleol, prentisiaethau a thwf economaidd drwy weithgareddau caffael yn gysylltiedig â gwerth cymdeithasol. Ymhlith yr heriau allweddol, roedd angen cynyddu adnoddau i fodloni’r galw i’r dyfodol a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor y rhaglen.
Wrth ddiolch i’r swyddog am ei chyflwyniad, canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y cyflawniadau ar werth cymdeithasol a chafodd fwy o wybodaeth am ymgysylltu â gwirfoddolwyr.
Er ei fod yn croesawu’r adroddiad, roedd y Cynghorydd Richard Jones yn cwestiynu’r pwyslais parhaus ar gefnogi contractau pan aethpwyd y tu hwnt i’r targed corfforaethol ar draul meysydd eraill y rhaglen.
Eglurodd y Prif Swyddog fod y dull uchelgeisiol cychwynnol o wneud gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o weithgareddau’r Cyngor wedi cael ei adolygu i flaenoriaethu gwaith a gwneud y mwyaf o adnoddau yn y tîm bychan i gyflawni’r canlyniadau cywir ar draws y rhaglen.
Siaradodd y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol am effaith yr adnoddau ychwanegol dros dro a ddyrannwyd yn ystod 2021, oedd yn dangos beth ellid ei gyflawni gyda mwy o gapasiti. Wrth ymateb i fwy o gwestiynau, rhoddodd eglurhad ar sefydlu’r gofynion craidd penodol ym mhob contract a sgorio contractau yn seiliedig ar y gwerth gorau a chyfleoedd gwerth cymdeithasol.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y posibilrwydd o wella canlyniadau ymhellach drwy adolygu lefel yr adnoddau ac archwilio cyfleoedd gwerth cymdeithasol mewn contractau lefel is.
Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Richard Lloyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad y rhaglen gwerth cymdeithasol hyd yma; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnig ynghylch adrodd ar berfformiad i gyflawni rhaglen waith gwerth cymdeithasol cyraeddadwy ar gyfer 2022/23, gyda’r adnoddau sydd ar gael, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.