Mater - penderfyniadau
Capital Programme Monitoring 2021/22 (Month 9)
13/06/2022 - Capital Programme Monitoring 2021/22 (Month 9)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 ers ei gosod ym mis Rhagfyr 2020 hyd at ddiwedd Mis 9 (Rhagfyr 2021), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniadau amcanol.
Gwelodd y Rhaglen Gyfalaf gynnydd net o £6.626 miliwn yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys:
· Cynnydd net o £10.337 miliwn yng nghyllideb y rhaglen (Cronfa’r Cyngor £9.222 miliwn, y Cyfrif Refeniw Tai £1.115 miliwn);
· Dygwyl ymlaen net i 2022/23, cymeradwywyd ym mis 6, o (£0.687miliwn) a Grant Cynnal a Chadw Ysgol ychwanegol (£2.638) (Cronfa’r cyngor i gyd)
· Arbedion a nodwyd ym mis 9 (£0.386miliwn) (Cronfa’r Cyngor)
Y gwariant gwirioneddol oedd £52.871miliwn.
Roedd derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd yn nhrydydd chwarter 2021/22 ynghyd ag arbedion a nodwyd yn gyfanswm o £0.757miliwn. Roedd hynny’n rhoi gweddill rhagamcanol diwygiedig yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 9 o £4.904m (o weddill sefyllfa gyllid 6 mis o £4.147m) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2021/22 – 2023/24, cyn gwireddu derbynebau cyfalaf ychwanegol ac/neu ffynonellau cyllid eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad; a
(b) Cymeradwyo'r addasiadau dwyn ymlaen.