Mater - penderfyniadau

Medium Term Financial Strategy and Budget 2022/23

22/02/2022 - Medium Term Financial Strategy and Budget 2022/23

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar brif benawdau ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, cyn proses gosod y gyllideb ffurfiol y Cyngor ym mis Chwefror.

 

Roedd y cyllid allanol cyfun dros dro ar gyfer 2022/23 yn gynnydd o 9.2% ar y cyllid allanol cyfun a addaswyd ar gyfer 2021/22 – sydd ychydig yn is na chynnydd cyfartalog Cymru gyfan o 9.4%.  Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd ariannol o £25.396 miliwn o 2021/22 ond nid oedd yn ystyried ffioedd clwyd Prosiect Trin Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol, lle derbyniwyd y ddau yn flaenorol drwy grantiau penodol.   Yn ychwanegol, roedd disgwyl i fodloni effeithiau’r holl ddyfarniadau cyflog a’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn llawn yn ogystal â’r risgiau parhaus fel Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a chostau ychwanegol parhaus ac incwm a gollwyd oherwydd y pandemig yn dilyn dod â Chronfa Galedi Llywodraeth Cymru i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

 

Byddai’r pwysau ychwanegol hyn yn cynyddu’r gofyniad cyllideb ychwanegol cyffredinol ag adroddwyd yn flaenorol, a oedd wedi’i seilio ar y lefel isaf ac o dan lefelau galw yn ystod y flwyddyn.   Unwaith i’r gwaith ar adolygu’r holl bwysau cost ychwanegol gael ei gwblhau, bydd angen argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2022/23 gan y Cabinet i’r Cyngor ym mis Chwefror.   Byddai adeiladu gwydnwch i mewn i gronfeydd wrth gefn yn ystyriaeth allweddol o osod y gyllideb ar gyfer 2022/23 ac ar gyfer y Strategaeth Cyllid Tymor Canolig, yn enwedig o ystyried y dyraniadau dangosol heriol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad, croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton y Setliad cynyddol ond bu iddo gydnabod bod dyraniadau dangosol y dyfodol, costau byw cynyddol a sefyllfa ariannu Sir y Fflint yng Nghymru yn atgyfnerthu pwysigrwydd cynnal trafodaethau parhaus gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud achos am ariannu mwy teg.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr bod dyraniad Sir y Fflint yn is na chyfartaledd Cymru ac roedd ei safle fel yr 20fed Cyngor allan o 22 yng Nghymru ar gyllid y pen yn bryder parhaus.   Wrth dynnu’r cyllid gwaelodol ychwanegol, a oedd yn bwriadu diogelu Cynghorau rhag disgyn llawer is na chyfartaledd Cymru, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y penderfyniad gan LLC o bosibl wedi cael ei ddylanwadu gan y Setliad.

 

Bu i’r Cynghorydd Ian Roberts hefyd groesawu’r cynnydd yn y Setliad ond dywedodd y byddai angen i ragamcanion cyllideb cyfredol y Cyngor ystyried nifer o bwysau sylweddol nad oedd wedi’u cwblhau eto.   Cyfeiriodd at effaith ehangach canlyniadau ar ddyfarniadau cyflog athrawon a’r Cyflog Byw Cenedlaethol ac ategodd yr angen i gytundebau cyflog cenedlaethol gael eu hariannu’n llawn.

 

Gan ateb cwestiwn y Cynghorydd Sean Bibby am gymharu dyraniadau a roddwyd i awdurdodau cyfagos, eglurodd y swyddogion bod yr adroddiad wedi’i seilio ar y cyfartaledd ar draws Gogledd Cymru a oedd yn debyg i’r cyfartaledd cenedlaethol a bod yr anghydraddoldeb cyllid yng Nghymru yn cael ei godi ar lefel Gweinidogol. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am effeithiau ehangach chwyddiant a’r angen i ystyried cyllideb 2022/23 yn ofalus yng nghyd-destun blynyddoedd i ddod.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am yr angen i’r Cyngor gryfhau gwydnwch ariannol yn enwedig o ystyried dylanwad pwysau chwyddiant fel risg parhaus.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones, er bod y setliadau mynegol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn cael eu croesawu, roeddent yn is na’r disgwyl.   Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod gwaith manwl yn cael ei wneud i adolygu pwysau cost allweddol a newidiadau i grantiau fel y gellir adrodd ar y sefyllfa ddiweddaraf ym mis Chwefror.

 

Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol, eglurhad ar effaith ariannol presennol rhoi’r Cyflog Byw Cenedlaethol ar waith wrth ddisgwyl am y canlyniad ar gyfer 2022/23.  Dywedodd hefyd y byddai’r problemau gyda recriwtio a chadw staff ar draws pob sector - a oedd wedi’i gydnabod yn eang - yn ffurfio rhan o’r Strategaeth Pobl yn nes ymlaen ar y rhaglen.

 

Cynigodd y Cynghorydd Jones bod y Pwyllgor yn cydnabod dyraniadau dangosol ond mynegodd siomedigaeth nad yw LLC yn ystyried rhoi dyraniad ychwanegol tuag at ddyfarniadau cyflog cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol.   Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2022/23, bod y Pwyllgor yn dymuno rhoi adborth yn ôl i’r Cabinet am ei gydnabyddiaeth o’r dyraniadau dangosol a’i siomedigaeth o ran Llywodraeth Cymru yn peidio ag ystyried rhoi dyraniad ychwanegol tuag at ddyfarniadau cyflog cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol.