Mater - penderfyniadau

Housing Revenue Account (HRA)

15/02/2022 - Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i ystyried y gyllideb Cyfrif Refeniw Tai a gynigiwyd ar gyfer 2022/23 a drafft o Gynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai.  Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) gyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

 

  • Benthyca
  • Rhenti
  • Rhenti Garejis
  • Taliadau Gwasanaeth
  • Rhaglen Gyfalaf
  • Adfywio
  • SHARP
  • Arian Cyfalaf
  • Cronfeydd Wrth Gefn
  • Goblygiadau o ran Adnoddau (gan gynnwys ailstrwythuro er mwyn diwallu pwysau gwaith)
  • Asesiad o Effaith a Rheoli Risg
  • Ffyrdd o Weithio (Datblygu Cynaliadwy)
  • Effaith Nodau Lles

 

Roedd y cynnydd o ran rhent a gynigiwyd yn y cynllun busnes yn gweithredu ymgodiad cyffredinol o 1.18% i’r holl denantiaid ac, yn ychwanegol, roedd yn gweithredu’r ymgodiad trosiannol o £2 i denantiaid sydd ar hyn o bryd yn talu o leiaf £3 o dan y rhent targed, sy’n gyfwerth â chynnydd cyffredinol o 2% mewn rhent, fel yr amlinellir yn y Cynllun Busnes.   

 

Cynigiwyd cynnydd o 2% mewn rhent garejis a lleiniau garejis ar gyfer 2022/2023, a oedd gyfwerth â £0.20 yr wythnos am rent garejis, gan olygu bod y rhent wythnosol yn £10.23 (yn seiliedig ar 52 wythnos).

 

O ran Taliadau Gwasanaeth, cynigiwyd rhewi’r cynnydd eto yn 2022/23 oherwydd effaith barhaus y pandemig a byddai mwy o waith yn cael ei gyflawni yn ystod 2022/23, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu darparu o safon uchel, yn cynnig gwerth am arian a bod y gwir gostau’n cael eu hadlewyrchu wrth gyfrifo taliadau gwasanaeth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Helen Brown a oedd modd darparu dadansoddiad o’r taliadau rhent a rhent garejis mewn punnoedd a cheiniogau ar gyfer y Pwyllgor.   Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) y byddai’r wybodaeth hon yn amrywio ar gyfer pob tenant, ond y byddai modd darparu cyfartaledd ar gyfer tenantiaid i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Siaradodd yr Aelodau o blaid y gwaith a wneir o ran lleiniau garejis, fel yr amlinellir fel rhan o’r cyflwyniad.  

 

            Cafodd yr argymhelliad, a amlinellir o fewn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Helen Brown.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai a’r Gyllideb ar gyfer 2022/23, fel a gyflwynwyd yn yr adroddiad a’r atodiadau.