Mater - penderfyniadau

Risks and Issues within Portfolios and Feedback from Overview & Scrutiny

22/03/2022 - Risks and Issues within Portfolios and Feedback from Overview & Scrutiny

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gyda meysydd risg ar gyfer pob un o’r pum portffolio gwasanaeth ac adborth am y materion hynny gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Addysg ac Ieuenctid

 

Wrth grynhoi’r prif feysydd risg, rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wybodaeth am ddull gweithredu a ddilynwyd i nodi lefelau cadernid ysgolion wrth iddynt nesáu at wyliau’r Nadolig a bod newid i ddysgu o bell - gan ymgynghori â Llywodraeth Cymru (LlC) - wedi’i groesawu gan Benaethiaid a’r rhan fwyaf o rieni.  Roedd gofyniad parhaus am gyllid grant ychwanegol i ddarparu cefnogaeth angenrheidiol i fynd i’r afael ag effaith hirdymor y pandemig ar ddisgyblion o bob oed.  Risg uchel arall oedd gallu ysgolion i ddelio â heriau fel absenoldebau staff ynghyd â newidiadau deddfwriaethol a pharatoadau ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd.  Roedd sefyllfa LlC o ran arholiadau ysgol yn cael ei monitro’n agos.  Roedd paratoadau ar y gweill i ysgolion gynnal asesiadau risg yn barod ar gyfer ailagor ym mis Ionawr.  Byddai’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa pob ysgol yn cael ei rhannu gyda phob Aelod pan fyddai’r data wedi’i gasglu yn ddiweddarach yn y dydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd David Healey i’r Prif Swyddog a’i thîm am eu cefnogaeth i ysgolion a Phenaethiaid.  Gan ymateb i gwestiwn am wella awyriad mewn ysgolion, dywedodd y byddai cyllid ychwanegol gan LlC yn galluogi’r Cyngor i asesu lle ddylai gwaith adfer gael ei flaenoriaethu.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd, dywedodd y Prif Swyddog fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid wedi trafod y nifer gynyddol o blant sy’n cael eu haddysgu gartref ac effaith hynny ar gyfrifoldebau’r Awdurdod Lleol.  O ran yr heriau wrth gyrchu staff cyflenwi, a oedd wedi cynyddu’n genedlaethol yn ystod y pandemig, byddai’n rhannu’r awgrym i LlC gysylltu â’r sefydliadau hynny i ailadrodd eu gwerth o ran darparu gwasanaeth.

 

Tai ac Asedau

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr effaith y pandemig ar incwm rhenti unwaith eto, a’r gefnogaeth sydd ar gael i denantiaid sy’n cael anhawster, a oedd yn barod i ymgysylltu â’r Cyngor.  Roedd y sefyllfa o ran pobl a oedd yn datgan eu bod yn ddigartref yn parhau i gael ei monitro, a byddai cyllid ychwanegol gan LlC yn helpu i gynyddu capasiti staff a gwasanaethau cefnogi eraill a gomisiynir.  Roedd risgiau parhaus o ran adnoddau deunydd crai a chostau yn cael eu hadlewyrchu’n genedlaethol.

 

Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod cadernid y tîm wedi elwa o ymgyrch recriwtio lwyddiannus, ac eithrio swydd wag heb ei llenwi yn y tîm Draenio a Diogelu rhag Llifogydd.  O ran y Cynllun Datblygu Lleol, disgwyliwyd ymateb gan yr Arolygiaeth Gynllunio cyn cam nesaf yr ymgynghori o ran y newidiadau.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant fod prif feysydd galw ar wasanaethau o ganlyniad i bwysau ar y tri ysbyty lleol a bod gwaith amddiffyn plant wedi cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i achosion cenedlaethol yn codi ymwybyddiaeth.  Eglurodd y dull o flaenoriaethu gwaith y Gwasanaethau Plant fesul achos a rhoddodd sicrwydd fod gwasanaethau diogelu yn cael eu cynnal, er bod hynny’n cael effaith tymor byr ar fodelau arfer da.  Roedd dewisiadau’n cael eu harchwilio i gynyddu capasiti ac adleoli staff i gefnogi meysydd oedd dan bwysau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd beth ellid ei wneud am ddiffyg gofal cymdeithasol estynedig a’i effaith ar gyfraddau rhyddhau o’r ysbyty, a oedd yn broblem genedlaethol.  Fel gyda phortffolios eraill, dywedodd yr Uwch Reolwr fod rhai unigolion wedi dewis gadael gwasanaethau i ddilyn cyfleoedd cyflogaeth amgen yn ystod y pandemig.  Byddai gweithgor a sefydlwyd gydag Adnoddau Dynol yn edrych ar recriwtio a chadw staff ar draws y sefydliad er mwyn cynyddu capasiti a nodi datrysiadau hirdymor.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod cadw’r gweithlu yn amlwg yn risg a rennir ar draws portffolios.  Gan ymateb i sylwadau, cydnabu’r Uwch Reolwr fod galw ar Wasanaethau Cymdeithasol yn dod yn fwy heriol a byddai’r feirws sy’n peri pryder yn cael ei fonitro’n agos dros yr wythnosau nesaf.

 

Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Hilary McGuill dywedodd yr Uwch Reolwr fod cyfleoedd datblygu gyrfa yn rhan allweddol o’r ymgyrch recriwtio ym maes gofal cymdeithasol.  Cydnabu bryderon diogelu o ran y nifer gynyddol o blant a oedd yn cael eu haddysgu gartref neu a oedd yn absennol o’r ysgol oherwydd Covid, yn yr un modd â’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a roddodd sicrwydd bod cydweithio agos rhwng cydweithwyr Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol yn digwydd yn rheolaidd a thrwy’r Panel Diogelu Corfforaethol.

 

Soniodd y Cynghorydd Christine Jones am effeithiolrwydd y panel a rhannodd bryderon am ddiffyg deddfwriaeth o ran addysg ddewisol yn y cartref.

 

Dywedodd yr Hwylusydd fod llythyr a oedd yn amlygu’r un pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant wedi’i anfon at LlC a byddai’r ymateb yn cael ei ddosbarthu i bob Aelod.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod diogelu yn gyfrifoldeb a rennir ar draws portffolios, wedi’i gefnogi gan sesiynau hyfforddiant.

 

Wrth ganmol gwaith timau Gwasanaethau Cymdeithasol, gofynnodd y Cynghorydd Marion Bateman am nifer y cleifion yn Sir y Fflint a oedd yn aros am becynnau gofal ar hyn o bryd i’w galluogi i gael eu rhyddhau o’r ysbyty.  Rhoddodd yr Uwch Reolwr sicrwydd fod timau’n gweithio’n rhagweithiol i fynd i’r afael â’r sefyllfa cymaint ag sy’n bosibl, er bod niferoedd yn cynyddu.  Byddai’n gofyn am ddiweddariad am y sefyllfa bresennol gan Susie Lunt.

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y wybodaeth ddiweddaraf am ffigurau absenoldeb salwch a oedd wedi cynyddu ers cyhoeddi’r adroddiad, ac effaith newidiadau deddfwriaethol ar brofion Covid a rheolau hunanardystio.  Roedd materion recriwtio yn ffactor i rai meysydd, gan gynnwys gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.  Roedd yn bleser nodi bod casgliadau gwastraff a safleoedd ailgylchu wedi rhedeg yn esmwyth dros gyfnod y Nadolig ar ôl i staff gael eu hadleoli ac i weithwyr asiantaeth gael eu defnyddio.  Roedd materion staffio contractwyr wedi arwain at rywfaint o amhariad i’r gadwyn gyflenwi ac roedd oedi wrth gael cymeradwyaeth reoleiddiol yn effeithio ar rai cynlluniau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am y risg bosibl i gyllid grant a dywedwyd bod cyfarfodydd gyda LlC yn parhau er mwyn canfod y sefyllfa.

 

Wrth ddiolch i’r uwch swyddogion am eu diweddariadau llawn gwybodaeth, cynigiodd y Cadeirydd yr argymhelliad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Marion Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cynnydd y meysydd o risg a amlygwyd o fewn y pum portffolio a nodwyd yn y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor hwn yn cael eu nodi.