Mater - penderfyniadau

Medium Term Financial Strategy and Annual Budget 2022/23

13/06/2022 - Medium Term Financial Strategy and Annual Budget 2022/23

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2022/23 cyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a'r broses ffurfiol o bennu'r gyllideb.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod adroddiad wedi mynd ger bron y Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf yn nodi bod gofyniad cyllidebol ychwanegol o £16.750m.  Ystyriwyd yr holl bwysau costau gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Medi a mis Hydref a chefnogwyd pob un ohonynt, heb argymell unrhyw newidiadau.  Yn y Cabinet ym mis Hydref, dwedwyd wrth yr Aelodau bod gofyniad cyllidebol ychwanegol wedi'i ddiweddaru o £18m oherwydd amryw newidiadau, a'r mwyaf arwyddocaol o'r rhain oedd y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr o 1 Ebrill 2022 ymlaen.  Ers hynny, roedd rhagor o waith wedi’i wneud ar ragdybiaethau cyflog a chwyddiant ac roedd y Cyngor wedi cael gwybod am gynnydd i’r gyllideb ddrafft gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Roedd effaith y rheiny, ac addasiadau eraill i bwysau costau presennol, wedi cynyddu'r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer pwysau costau presennol ac wedi cynyddu'r gofyniad cyllidebol ychwanegol i £20.696m fel mae Tabl 1 yn yr adroddiad yn ei nodi.  Roedd newidiadau i’r gofynion cyllidebol ychwanegol o Gam 1 ym mis Gorffennaf yn Nhabl 2 yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud bod isafswm y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2022/23 o £20.696m gyfwerth â chynnydd yng Ngrant Llywodraeth Cymru (LlC) o isafswm o 7%.

 

Roedd hyn yn cyd-fynd â Chynghorau eraill Gogledd Cymru ac roedd llythyr wedi'i anfon at LlC gan chwe Arweinydd a Phrif Weithredwr Cynghorau Gogledd Cymru cyn cael y Setliad Dros Dro a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.  Roedd y Setliad i fod i gael ei dderbyn ar 21 Rhagfyr 2021.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn a nodi'r gofyniad cyllidebol ychwanegol diwygiedig a newidiadau i bwysau costau; a

 

(b)       Nodi'r strategaeth ddatrysiadau a'r cynnydd angenrheidiol yn y Cyllid Allanol Cyfun cyn derbyn y Setliad Dros Dro.