Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 8)

13/06/2022 - Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 8)

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw yn 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol.  Cyflwynodd y sefyllfa o ran incwm a gwariant gwirioneddol, fel ag yr oedd ym Mis 8. 

 

Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Gwarged gweithredol o £0.716 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog NJC a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.061 miliwn ers ffigur y gwarged (0.655 miliwn) a adroddwyd ym Mis 7.
  • Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £6.586 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.548 miliwn yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagwelid y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 yn £3.924 miliwn.

 

Amlinellwyd manylion effaith Storm Christoph ar y gyllideb yn yr adroddiad a oedd yn gyfanswm o ryw £0.200 miliwn.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am sefyllfa pob portffolio; amrywiadau arwyddocaol y mis hwnnw; faint o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a gafodd eu cyflawni; cyllid mewn argyfwng; cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22.