Mater - penderfyniadau
Internal Audit Charter
16/03/2022 - Internal Audit Charter
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad i ystyried canlyniad yr adolygiad diweddaraf o’r Siarter er mwyn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol a rheoliadol. Nid oedd unrhyw newidiadau sylweddol heblaw ar gyfer adlewyrchu newid teitlau swyddi a Phwyllgorau ynghyd â fformatio cyffredinol.
Mewn ymateb i’r cwestiynau gan Allan Rainford, rhannwyd diweddariad ar yr adnoddau presennol o fewn Archwilio Mewnol a rhoddwyd eglurhad ar ofynion cymhwyster proffesiynol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol.