Mater - penderfyniadau

Joint Funded Care Packages

25/01/2022 - Joint Funded Care Packages

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar sefyllfa ariannol y Cyngor ynghylch y pecynnau gofal a ariennir ar y cyd gan gynnwys lefel y cyfraniadau a dderbyniwyd a thargedau cyllideb incwm dros y tair blynedd ddiwethaf.

 

Mae’r fframwaith statudol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn nodi trefniadau ar gyfer Byrddau Iechyd er mwyn darparu Gofal Iechyd Parhaus (GIP) y GIG yng Nghymru, mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill.   Datblygwyd perthnasoedd gweithio â chydweithwyr y Bwrdd Iechyd dros y blynyddoedd, er mwyn cytuno ar y gofal mwyaf priodol i unigolion.   Nodwyd bod gan Sir y Fflint a Wrecsam y nifer uchaf o becynnau GIP yng Ngogledd Cymru.   Roedd nifer o heriau yn codi o’r broses GIP, gan gynnwys ymaddasu er mwyn cwrdd ag anghenion newidiol unigolion o fewn cymunedau.   Amlygodd yr adroddiad yr adnoddau GIP ychwanegol sydd gan y Bwrdd Iechyd o’i gymharu â’r Cyngor, lle mae swydd Cydlynydd GIP wedi ei chreu’n benodol er mwyn cefnogi’r broses hawlio.   Rhannwyd gwybodaeth hefyd ynghylch y trefniadau ar gyfer monitro ac uwchgyfeirio lefelau dyledion sydd heb eu talu.

 

Cyflwynodd y Prif Gyfrifydd (Gwasanaethau Cymdeithasol) drosolwg o’r prosesau ariannol sydd ar waith ar gyfer pecynnau gofal sydd wedi eu gosod ar gyfer trefniadau monitro cyllideb ac adolygu lefelau dyledion yn rheolaidd, fel sy’n cael ei nodi yn yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu presenoldeb.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Geoff Collett ac Andy Williams.

 

PENDERFYNWYD:  

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd ynghylch dull cadarn a rhagweithiol y Cyngor o reoli’r gyllideb ar gyfer pecynnau gofal a ariennir ar y cyd; a

 

(b)          Bod y Cyngor yn nodi swm y cyfraniadau blynyddol o gyfraniadau Gofal Iechyd Parhaus (GIP) gan Fyrddau Iechyd.