Mater - penderfyniadau
Governance and Audit Committee Annual Report
05/08/2022 - Governance and Audit Committee Annual Report
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiad gan egluro, yn unol â dogfen arfer orau CIPFA, ‘Audit Committees – a Practical Guidance for Local Authorities 2018’, fod angen i’r Pwyllgor gael ei ddal i gyfrif gan y Cyngor am y gwaith roedd yn ymgymryd ag o. I gefnogi hynny, diwygiwyd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn 2018 i gynnwys yr angen i’r Pwyllgor baratoi adroddiad blynyddol i’r Cyngor ar ei gyflawniadau ac i ddangos ei atebolrwydd.
Roedd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2020/21 wedi’i atodi i’r adroddiad ac roedd yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r Cyngor i gwrdd â’r gofyn.
Rhan sylweddol o rôl y Pwyllgor oedd dangos ei atebolrwydd, a ddylai gael ei ystyried dan y tair agwedd ganlynol:
1. Cefnogi atebolrwydd y Cyngor i’r Cyngor a budd-ddeiliaid
2. Cefnogi atebolrwydd o fewn y Cyngor
3. Dal y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i gyfrif
Roedd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi’i gyflwyno a’i gefnogi gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 17 Tachwedd 2021.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Chris Dolphin a’i eilio gan y Cynghorydd Mullin.
Diolchodd y Cynghorydd Chris Dolphin i swyddogion y Cyngor am baratoi’r adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.