Mater - penderfyniadau
Flintshire Summer of Fun and Summer Playschemes
11/02/2022 - Flintshire Summer of Fun and Summer Playschemes
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a rhoddodd fanylion ar sut mae’r Cynlluniau Chwarae yr Haf a Haf o Hwyl yn cael eu darparu yn Sir y Fflint. Dyma’r 26fed flwyddyn mae’r Cyngor wedi darparu rhaglen Cynllun Chwarae’r Haf Sir y Fflint, a diolchodd y Prif Swyddog Mrs. Janet Roberts (Swyddog Datblygu Chwarae) a’r tîm o weithwyr chwarae a oedd wedi sicrhau bod y rhaglenni yn cael eu cefnogi’n dda eto yn 2021.
Eglurodd y Prif Swyddog ym mis Mehefin 2021, bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ei raglen ‘Haf o Hwyl’ sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd gyda Chomisiynydd Plant Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Roedd Llywodraeth Cymru sicrhau bod £5miliwn ar gael ar draws Cymru, a Sir Y Fflint yn cael dyraniad o £218,000 i ddarparu ‘Haf o Hwyl’ i blant a phobl ifanc i gynorthwyo i liniaru ychydig o effeithiau negyddol yn dilyn y cyfyngiadau COVID-19. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhagnodi pwy ddylai gael eu targedu i’r rhaglen hon, a rhoddodd wybodaeth ar y rhestr o weithgareddau a ddarparwyd a oedd yn cynnwys gweithgareddau ar gyfer plant h?n yn eu arddegau. Mae ymrwymiad y tîm wedi bod yn wych a roedd y swyddogion yn y broses o ddarparu adborth i Lywodraeth Cymru a fydd yn paratoi adroddiad gwerthuso. Yn dilyn llwyddiant rhaglen Haf o Hwyl, roedd Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu hwn ac yn cynllunio Rhaglen Gaeaf Llawn Lles i’w gynnal rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth, gyda ffocws benodol ar hanner tymor mis Chwefror.
Dywedodd y Prif Swyddog bod y Swyddog Datblygu Chwarae yn casglu adborth gan rieni a phlant ar y Rhaglen, ac awgrymodd ar ôl derbyn adborth, y byddai yn ei ddosbarthu i’r Pwyllgor.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am yr adroddiad a chanmolwyd y gwaith a gyflawnwyd i ddarparu cyfle i’r plant, a chroesawyd yr ymrwymiad a roddwyd i ddarparu Rhaglen Gaeaf Llawn Lles. Ailadroddodd Arweinydd y Cyngor y sylwadau a wnaethpwyd gan y Cadeirydd a diolchodd hefyd i’r Cynghorau Tref a Chymuned am eu cyfraniad parhaus i sicrhau bod y Rhaglenni yn cael eu darparu.
Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones am y nifer o safleoedd Cymraeg iaith gyntaf gan fod y nifer y safleoedd yn wahanol o fewn yr adroddiad. Cytunodd y Prif Swyddog i wirio hyn ac i adrodd yn ôl i’r Cynghorydd Jones yn dilyn y cyfarfod.
Cynigiwyd yr argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd David Mackie a’r Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint yn cael y cyfle i gael mynediad a manteisio ar ystod o weithgareddau gwerthfawr dros wyliau’r haf drwy Gynllun Chwarae Sir y Fflint a Rhaglen Haf o Hwyl; a
(b) Bod y Pwyllgor yn canmol ymdrech sylweddol gan Swyddogion y Cyngor a Swyddogion mewn sefydliadau partneriaid allweddol i ddarparu rhaglenni llwyddiannus yn gyflym ac yn ddiogel, yn arbennig o fewn amserlenni heriol.