Mater - penderfyniadau

Licensing Act 2003 Draft Statement of Licensing Policy December 2021 – December 2026

05/08/2022 - Licensing Act 2003 Draft Statement of Licensing Policy December 2021 – December 2026

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad gan egluro mai hwn oedd y pumed Datganiad Polisi Trwyddedu i gael ei gyhoeddi a oedd yn amlinellu disgwyliad yr Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas ag ymgeiswyr.  Roedd hefyd yn manylu beth y gallai ymgeiswyr a defnyddwyr gwasanaeth ei ddisgwyl gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

Roedd swyddogion wedi cynnal adolygiad o’r polisi cyfredol, gan ystyried unrhyw newidiadau perthnasol i ddeddfwriaeth, canllawiau ac arferion da.  Cynhaliwyd yr adolygiad mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol eraill Gogledd Cymru yn rhan o ymdrech barhaus i sicrhau cysondeb, lle bo modd, ledled y rhanbarth.

 

Roedd y Drafft o’r Datganiad Polisi Trwyddedu arfaethedig ar gyfer cyfnod Rhagfyr 2021–Rhagfyr 2026 wedi’i atodi i’r adroddiad.  Roedd y drafft terfynol yn dangos y newidiadau roedd swyddogion wedi’u gwneud cyn ymgynghori mewn coch, a’r newidiadau a oedd wedi’u gwneud ers ymgynghori mewn glas.  Roedd crynodeb o’r newidiadau wedi’i ddarparu yn yr adroddiad.

 

Roedd dau ymateb wedi’u derbyn mewn perthynas â’r ymgynghoriad, gan gynrychiolydd i Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chynrychiolydd ar gyfer Deiliaid Trwydded Eiddo.  Roedd manylion yr ymatebion hynny hefyd wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Sharps a’u heilio gan y Cynghorydd Small.

 

Mynegodd y Cynghorydd Sharps ei ddiolch i’r Tîm Trwyddedu am eu hymdrechion parhaus yn ystod y pandemig i sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i gael eu cefnogi.  Diolchodd iddynt am addasu’r ffordd roeddent yn gweithio i sicrhau bod gwasanaeth yn parhau i gael ei ddarparu, ac roedd eu holl gleientiaid yn croesawu hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod gwall yn yr atodiad yn 3.19, ac eglurodd nad oedd angen i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ymgynghori ar unrhyw amodau roedd yn eu gosod mewn perthynas â materion diogelwch tân.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Mabwysiadu’r Datganiad Polisi Trwyddedu Drafft, dros gyfnod o bum mlynedd hyd at fis Rhagfyr 2026; ac

 

(b)       I unrhyw benderfyniad i wneud newidiadau i’r polisi yn ystod y cyfnod o bum mlynedd gael ei ddirprwyo i’r Pwyllgor Trwyddedu.