Mater - penderfyniadau

Capital Strategy 2022/23 – 2024/25

05/08/2022 - Capital Strategy 2022/23 – 2024/25

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth Gyfalaf y Cyngor.  Roedd yn egluro’r gofynion ar gyfer y Strategaeth, ei hamcanion allweddol a chynnwys pob un o’i hadrannau

 

Dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), roedd angen i awdurdodau bennu ystod o Ddangosyddion Darbodus.  Roedd y Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion am Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2022/23–2024/25.

 

Nodau allweddol y Strategaeth oedd egluro sut yr oedd y Rhaglen Gyfalaf wedi’i datblygu a’i hariannu, yr effaith y gallai ei chael ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’r modd yr oedd yn gysylltiedig â Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor.  Roedd y Strategaeth yn ddogfen hollgwmpasog a chyfeiriai at ddogfennau eraill fel y Rhaglen Gyfalaf, y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw.  Roedd y Strategaeth wedi’i rhannu’n sawl adran, a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet ac nid oedd unrhyw faterion wedi’u codi.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson a’u heilio gan y Cynghorydd Mullin.

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r swyddogion am yr holl waith a wnaed ar yr adroddiad, a oedd yn dangos bod y Strategaeth wedi’i chyllido’n ddigonol, wedi’i phrofi ac yn gynaliadwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf; a

 

(b)       Chymeradwyo’r canlynol:

           

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2022/23–2024/25 fel yr oedd Tablau 1, a 4–7 yn eu nodi yn y Strategaeth Gyfalaf; a

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud newidiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r terfyn  gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 yn y Strategaeth Gyfalaf).