Mater - penderfyniadau

Responsible Investment Roadmap – Analysis for Climate Transition

04/04/2022 - Responsible Investment Roadmap – Analysis for Climate Transition

Cychwynnodd Mr Latham drwy dynnu sylw at bwysigrwydd penderfyniadau yn yr adroddiad yma, yn enwedig y prif gynnig bod y Gronfa’n targedu allyriadau carbon net sero erbyn 2045 (yn hytrach na 2050) gyda 50% o ostyngiad carbon yn y portffolio erbyn 2030.

 

Fe atgoffodd Mr Latham y Pwyllgor mai prif amcanion y Gronfa oedd sicrhau bod digon o arian ar gael i dalu budd-daliadau ac i gynorthwyo cyflogwyr i wneud y costau yma’n fforddiadwy.  Caiff hyn ei wneud drwy fanteisio ar enillion buddsoddi, gan mai dyletswydd ymddiriedol y Gronfa yw gwneud hynny.  Serch hynny, fe eglurodd y gellir gwneud hyn yn gyfrifol, heb gyfaddawdu ar yr enillion, drwy ystyried ffactorau ESG a materion ariannol eraill megis chwyddiant a risg cyfraddau llog.

 

Fe ychwanegodd Mr Latham y byddai’r Gronfa angen diweddaru’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi (‘ISS’) i adlewyrchu’r ymrwymiadau i uchelgais sero net ac ymgynghori gyda chyflogwyr yngl?n â’r diweddariadau arfaethedig yn unol â’r rheoliadau.  Yn amodol ar gytuno ar y cynigion yn yr adroddiad, bydd y Gronfa yn lansio ymgynghoriad cyflogwr yn y Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol  ym mis Tachwedd. Roedd yn credu y dylai’r Gronfa fod yn ystyried buddsoddi pan roedd yna lwybr trosiannol clir i ffwrdd o asedau sy’n ddwys o ran carbon ac fe ddylai fod yn edrych ar reoli amlygrwydd i asedau allai gael eu heffeithio’n negyddol neu’n colli gwerth oherwydd trawsnewid i garbon isel.

 

            Roedd y Gronfa hefyd wrthi’n trafod gyda WPP dros greu is-gronfa ecwiti byd-eang cynaliadwy, ond fe allai hyn gymryd 12 mis arall i’w greu.

 

            Cyflwynodd Mr Latham Mr Gaston a fyddai’n arwain y Pwyllgor drwy’r dadansoddiad.

 

Fe aeth Mr Gaston drwy gyflwyniad gan egluro’r cynigion, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

-       Pwrpas y dadansoddiad oedd helpu i osod targedau sero net y Gronfa ac i edrych yn fwy manwl ar y portffolio ecwiti a restrir i osod targedau gronynnog dros dro i helpu i leihau dwysedd carbon.

-       Y cynnig oedd y byddai’r Gronfa yn cefnogi cynhesu cyfyngedig i o dan 2oC, yn unol â Chytundeb Paris.  Roedd disgwyl i ddifrod corfforol, yn enwedig senarios o dan 3oC a 4oC danseilio enillion buddsoddiad y Gronfa.

-       Fel Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, roedd y Gronfa cael ei chraffu o ystyried y lefel uchel o dryloywder, bydd budd-ddeiliaid ehangach ac aelodau eisiau gwybod beth mae’r Gronfa’n ei wneud i leihau risg hinsawdd.

-       Roedd technoleg (megis cost is technolegau adnewyddadwy) a datblygiadau yn y farchnad (megis marchnadoedd yn gwobrwyo cwmnïau cynaliadwy dros gwmnïau sy’n seiliedig ar danwydd ffosil) yn golygu bod risgiau a chyfleoedd trawsnewid carbon isel yn berthnasol i’r gronfa heddiw ac i’r dyfodol.

-       Roedd tudalen 244 yn amlinellu fframwaith Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd Mercer. Roedd y dadansoddiad yn dangos rhaniad y portffolio rhwng y cwmnïau llwyd (cwmnïau dwys o ran carbon, cwmnïau â photensial newid isel), y cwmnïau gwyrdd (cwmnïau dwysedd isel a chwmnïau â photensial newid uchel) a’r cwmnïau yn y canol (cwmnïau amrywiol o ran dwysedd carbon a photensial newid).

-       Roedd Cam 3 ar dudalen 244 yn dangos y gellir defnyddio’r Fframwaith i osod targedau datgarboneiddio i 2025 a 2030.  Byddai Cam 4 yn cynnwys gosod cynlluniau pontio i’w rhoi ar waith.

-       Roedd tudalen 245 yn ymdrin ag ychydig o’r metrigau allweddol sydd yn ategu’r dadansoddiad. O ran gosod targedau, cynigir y dylai’r Gronfa ganolbwyntio ar y metric allyriad absoliwt ar waelod y sleid.

-       Roedd tudalen 246 yn egluro’r diffiniadau ar gyfer sgôp allyriadau 1, 2 a 3. Nid oedd allyriadau sgôp 3 wedi’u cynnwys wrth osod targed ar hyn o bryd oherwydd ansawdd y data a phroblemau argaeledd. 

 

Roedd crynodeb o gynigion y Gronfa i’w hystyried ar dudalennau 237 a 238.  Y prif argymhellion oedd bod y gronfa’n targedu sero net erbyn 2045 ac yn mabwysiadu cyfanswm targed y Gronfa o 50% o ostyngiad dwysedd o ran carbon erbyn 2030.  Rhestrodd Mr Gaston weddill yr argymhellion o dudalen 237 a 238.  Ar gyfer targedau stiwardiaeth, eglurodd Mr Gaston mai’r cynnig erbyn 2025, oedd naill ai bod 70% o allyriadau’r Gronfa’n cael eu hariannu  drwy ymgysylltu gan Robeco neu gynnwys cwmnïau a oedd eisoes wedi'u halinio â llwybr sero net.  Roedd hyn yn cynnwys targed pellach i gynnwys 90% o gyfanswm allyriadau’r Gronfa wedi’u hariannu erbyn 2030.

 

Fe atgoffodd Mr Hibbert fod Mr Gaston wedi gofyn mewn cyfarfod blaenorol a oedd modd cynnwys gwerth arian ar y ffigurau a nodwyd yn yr adroddiad, yn ogystal â chanran. Roedd yn credu y byddai’n haws adnabod y cyfalaf sy’n cael ei fuddsoddi a symud i ffwrdd o gwmnïau sy’n ddwys o ran carbon.  Cadarnhaodd Mr Gaston y byddai’n gallu gwneud hyn wrth symud ymlaen. 

 

Tynnodd Mr Gaston sylw ar y canlynol:

-       tudalen 249 - fe eglurodd bod 20% o ddaliadau’r Gronfa wedi cael eu dadansoddi ar gyfer y gwaith yma a byddai’r ffigur yma’n cynyddu dros amser.

-       tudalen 250 - roedd yn dangos fod cronfeydd ecwiti presennol y Gronfa yn gyfrifol am tua 46,000 tunnell o allyriadau CO2e ac y byddai targed sero net 2045 yn seiliedig ar allyriadau sgôp 1 a 2.

-       Yn unol â’r siart ar ochr chwith tudalen 252, ac yn unol â’r dadansoddiad llwyd/yn y canol/gwyrdd, roedd 94% o ecwiti’r Gronfa oedd wedi’u rhestru yn y categorïau asedau yn y canol ac roedd 3% o ecwiti’r Gronfa oedd wedi’u rhestru yn gwmnïau gwyrdd (er enghraifft, Tesla). Mae 2.6% mewn cwmnïau llwyd, sydd yn ddwys o ran carbon ac yn cael eu dominyddu gan ddaliadau marchnad newydd. Roedd y siart ar ochr dde y dudalen yn amlinellu cyfraniad gwirioneddol i ddwysedd carbon y daliadau. 

-       tudalen 254 - yn dangos y tri llwybr datgarboneiddio gwahanol. Gan ymateb i gwestiwn gan Mrs McWilliam, cadarnhaodd Mr Gaston fod y llwybr allyriadau a gynrychiolir gan y llinell wyrdd ar gyfer Ecwitïau a restrir, ac roedd y llwybr allyriadau a gynrychiolir gan y llinell biws gyfystyr â chyfanswm targed datgarboneiddio’r Gronfa.

 

            Roedd yna nifer o brif argymhellion ar gyfer y portffolio ecwiti a restrir.  Fe argymhellwyd mabwysiadu targed oedd yn gyson â lleihau allyriadau 35% erbyn 2025 a 68% erbyn 2030.  Yn ogystal, roedd yna darged arfaethedig i leihau datguddiadau olew a nwy 70% erbyn 2025 a 90% erbyn 2030.  Roedd targedau stiwardiaeth eisoes wedi’u disgrifio uchod. Yn olaf, cynigiwyd targedu bod â 30% o’r portffolio ecwiti a restrir mewn cwmnïau gwyrdd a chynaliadwy erbyn 2030.

 

            Cyn belled â bod Mrs McWilliam yn ymwybodol, y Gronfa oedd y cyntaf yng Nghymru i osod targedau datgarboneiddio mor fanwl â hyn. Serch hynny ar gyfer unrhyw beth a oedd o fewn dyraniadau asedau WPP, mae’r Gronfa’n dibynnu ar y WPP a Robeco i gyflwyno’r strategaeth hon ar gyfer y Gronfa.  Roedd hyn yn risg wedi'i restru ar y gofrestr risg, o ystyried na all y Gronfa gyflawni amcanion penodol gan fod y WPP methu cyflwyno popeth oedd ei angen.  Roedd Mrs McWilliam yn gobeithio y byddai Cronfeydd eraill yng Nghymru yn dilyn arweiniad Cronfa Bensiynau Clwyd drwy fabwysiadu eu targedau ar gyfer datgarboneiddio Dywedodd Mr Latham fod y gronfa yn rhannu ei meddyliau a chredoau gyda WPP. O ganlyniad, roedd cynnydd is-gronfa ecwiti byd-eang gweithredol gynaliadwy gyda WPP yn mynd rhagddo.  Cadarnhaodd Mrs Fielder fod y Gronfa wedi dadansoddi’r ymgysylltu roedd Robeco wedi’i wneud ar ei rhan ac fe’u gwahoddwyd i gyfarfodydd a diweddariadau rheolaidd gyda nhw o ran buddsoddi cyfrifol.  Bydd y Gronfa’n parhau i siarad ar y mater yma wrth symud ymlaen.

 

Rhoddodd Mr Gaston grynodeb o’r argymhellion ar dudalennau 257 a 258.  Petai’r Gronfa'n ymgysylltu â chwmnïau llwyd ac os nad oedd yna welliant dros amser, roedd o’n credu fod yna botensial wrth gydweithio gyda WPP a Robeco, i gyflwyno gwarediad dewisol. Pwysleisiodd Mr Gaston bwysigrwydd cyfathrebu unrhyw argymhellion y cytunwyd i’r WPP ac i reolwyr buddsoddi.

 

Fe ychwanegodd Mr Latham fod rhai budd-ddeiliaid eisiau cyflawni sero net erbyn 2030 (yn hytrach na 2045) a gofynnodd beth fyddai effaith hyn. Cadarnhaodd Mr Gaston o ystyried y byd buddsoddi, roedd targed sero net yn llawer cynt na 2045 yn afrealistig os oedd y Gronfa dal eisiau cynnal strategaeth fuddsoddi wedi’i arallgyfeirio. Os na fyddai’r gronfa yn cynnal strategaeth wedi’i arallgyfeirio a mabwysiadu targed sero net caled, fe fyddai’n debygol o gyfaddawdu ei allu i gyflawni’r amcanion enillion. Fe gytunodd ac ychwanegodd Mr Middleman os nad oedd y Gronfa’n cyflawni’r amcanion enillion buddsoddi, fe fyddai yna gynnydd mewn cyfraniadau i gyflogwyr (os bydd popeth arall yn gyfartal). Felly roedd hi’n hanfodol i wneud hyn mewn modd trefnus wedi’i fesur gyda thargedau uchelgeisiol, ond hefyd drwy sicrhau na fyddai hyn yn effeithio ar iechyd ariannol y Gronfa. 

 

            Roedd Mr Hibbert yn deall pwynt Mr Middleman a Mr Gaston, ond gofynnodd a oedd hi’n bwysig i gadw tua £22 miliwn o amlygrwydd i danwydd ffosil yn y portffolio ecwiti a restrir (roedd y Gronfa gyffredinol wrth tua £2biliwn) er mwyn cynnal portffolio o asedau amrywiol.  Dywedodd Mr Gaston nad oedd y cwmnïau llwyd, oedd yn gwmnïau dwys o ran carbon, yn gwmnïau tanwydd ffosil ecsgliwsif.  Dywedodd mai dull y gronfa oedd ymgysylltu gyda’r cwmnïau llwyd a’u gwthio i newid i fodelau busnes cynaliadwy, carbon isel.  Yn rhan o’r ISS, mae’r gronfa yn agored i ymwrthod dewisol, felly mewn 5 i 10 mlynedd, efallai mai amlygrwydd bach fydd gan y Gronfa i gwmnïau llwyd. Cadarnhaodd Mr Latham fod disgwyl i’r Gronfa fuddsoddi yng nghronfa ecwiti cynaliadwy byd-eang WPP, yr oedd disgwyl iddynt fod ag amlygrwydd isel i danwydd ffosil a chwmnïau llwyd.

 

            Dywedodd Mr Hibbert ei bod hi’n hanfodol yma i roi gwerth ariannol felly bod y newid mewn cyfalaf yn hawdd i’w adnabod.  Cadarnhaodd Mr Buckland y byddai hyn yn cael ei wneud ar gyfer dadansoddiad yn y dyfodol.

 

Trafododd Mr Latham y newid o ecwiti marchnad newydd ac ychwanegodd fod y Gronfa wrthi’n newid hyn i’r WPP.  Roedd portffolio marchnad newydd WPP yn 25% fwy effeithlon o ran carbon na’r meincnod. Byddai rhagor o fanylion yn cael ei gadarnhau ar hyn ar ôl y dadansoddiad y flwyddyn nesaf.

 

Fe ailadroddodd Mr Gaston yr argymhellion ac roedd y Pwyllgor yn hapus gyda'r argymhellion, gan nodi y byddai'r targedau’n cael eu ymestyn i gynnwys gwerthoedd ariannol er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)             Bod y Pwyllgor yn ystyried y dadansoddiad yng ngoleuni targed sero net erbyn 200 a gytunwyd yn flaenorol;

 

(b)             Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn cytuno ar bob un o’r cynigion ym mharagraff 1.08 yr adroddiad, yn benodol targedu sero net erbyn 2045 - amserlen fwy uchelgeisiol; a

 

(c)             Bod y Pwyllgor yn cytuno bod Datganiad Strategaeth Fuddsoddi yn cael ei diweddaru i adlewyrchu'r ymrwymiad ar gyfer ymgynghori gyda Chyflogwyr y Gronfa.