Mater - penderfyniadau

Pension/Administration/Communication Update

04/04/2022 - Pension/Administration/Communication Update

Fe soniodd Mrs Williams am y pwyntiau pwysig canlynol o ran diweddariad ar weinyddu a chyfathrebu:

 

-       Roedd y sgoriau rheoleiddio pensiwn blynyddol, sydd yn mesur data cyffredin ac sydd yn benodol i’r cynllun sydd gan y Gronfa yn erbyn hyblygrwydd penodol, wedi cael ei gadarnhau.  Sgôr y data cyffredin oedd 98% (92% oedd hyn yn flaenorol). Sgôr mesur data penodol y cynllun oedd 97% (68% o’r blaen pan gafodd ei gyflwyno gyntaf). Bu gwelliant ardderchog yn y meysydd hynny fel y nodir yn glir. Serch hynny, fe all gwelliannau wastadu wrth symud ymlaen o ystyried effaith busnes fel arfer a bod natur y sgoriau sydd yn weddill weithiau yn eu gwneud yn llai pwysig i’w diweddaru, ond mae disgwyl i’r sgoriau aros yn uchel.

-       Mae oedi hir yn dal i fod yng ngwasanaethau Prudential ar gyfer aelodau sydd wedi gofyn am arian i gael ei ryddhau.  Serch hynny, roedd yna welliant bach ac mae Mrs Williams yn monitro’r materion hyn yn rheolaidd.

-       Cyflwynwyd gwasanaeth newydd yn ddiweddar mewn cysylltiad â’r Lwfans Blynyddol a ffioedd treth Lwfans Bywyd, pan gynhaliodd Mercer weminar i aelodau'r cynllun ar y testun hwn, ac roedd y sesiwn yn ddefnyddiol iawn yn ôl yr aelodau.  Mae’r Gronfa yn hapus gyda chynnwys a fformat y sesiwn. Y gobaith yw y bydd dealltwriaeth yr aelodau yn gwella a bydd disgwyliadau’r gronfa i ddarparu cyngor/arweiniad yn lleihau.

-       Fe amlinellwyd y goblygiadau o ran adnoddau ym mharagraff 2.01, yn enwedig y swyddi gwag yn y tîm gweinyddu.  Roedd y Gronfa’n mynd drwy rownd arall o geisio recriwtio yn y tîm gweithrediadau, ond yn anffodus, ni lenwyd unrhyw swydd yn nhîm McCloud.

-       Byddai’r swyddi gwag hyn, ynghyd â hyfforddiant parhaus a gwyliau blynyddol yn cael effaith ar ddangosyddion perfformiad allweddol, disgwylir gostyngiad mewn dangosyddion perfformiad allweddol yn y chwarter nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ystyried a nodi’r diweddariad.