Mater - penderfyniadau
Governance Update and Consultations
04/04/2022 - Governance Update and Consultations
Dywedodd Mr Latham fod rhai o’r eitemau wedi cael eu diwygio yn y cynllun busnes a soniodd am y pwyntiau canlynol yn ei ddiweddariad:
- Nid oedd y Gronfa wedi derbyn Adolygiad Llywodraethu da gan Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau eto.
- Roedd paragraff 1.06 yn egluro canlyniad proses rheoli costau 2016. Serch hynny, roedd yna adolygiad parhaus gan SAB o ran y drydedd haen salwch ac o bosib, ystyried cyfraniadau aelodau ar gyflogau is. Roedd manylion yn ymwneud ag ymgynghoriad rheoli costau wedi’u hamlinellu ym mharagraff 1.07 ac fe ymatebodd y llywodraeth i hyn ar 4 Hydref.
- Roedd arolwg ar effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu fod i gael ei rannu gydag aelodau’r Pwyllgor iddynt ei lenwi hefyd.
- O ran paragraff 1.02, er mwyn hwyluso cynllunio ar gyfer olyniaeth, ac o ganlyniad i faterion gyda llwyth gwaith yn yr Adran Gyllid, fe argymhellodd Mr Latham fod y Gronfa yn recriwtio cyfrifydd dan hyfforddiant i swydd newydd yn Adran Cyllid y Gronfa.
Gan ymateb i gwestiwn am lefel cyflog ar gyfer y swydd newydd, fe eglurodd Mr Latham fod yr amcangyfrifiad yn seiliedig ar recriwtio tebyg yng Nghyngor Sir y Fflint.
Pan ofynnwyd sut y gallai’r Gronfa fod yn sicr y byddai’r cyfrifydd dan hyfforddiant yn parhau i gael ei gyflogi yn y Gronfa pan fyddent yn gymwys, dywedodd Mr Latham nad oedd yna unrhyw sicrwydd ond roedd yn gobeithio y byddai gweithio'n benodol gyda’r Gronfa yn ystod yr hyfforddiant yn meithrin teyrngarwch.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad;
(b) Cytunodd y Pwyllgor ar y newidiadau i amseru’r cynllun busnes ar gyfer eitemau G1 a G5 fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01, mae’r ddau yn ymwneud ag oedi ar lefel genedlaethol; a
(c) Cytunodd y Pwyllgor i’r newid i’r Adran Gyllid yn cynnwys cyfrifydd y Gronfa dan hyfforddiant ar gost flynyddol o £38,000 i £46,000.