Mater - penderfyniadau
Clwyd Pension Fund Draft Annual Report and Accounts
04/04/2022 - Clwyd Pension Fund Draft Annual Report and Accounts
Cadarnhaodd Mr Vaughan er bod y gwaith o archwilio Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Gronfa yn mynd rhagddo, nid oedd wedi’i gwblhau eto. Y terfyn amser statudol i gyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol oedd 1 Rhagfyr 2021. Er mwyn cyrraedd y terfyn amser yma, byddai angen dirprwyo cymeradwyaeth yr adroddiad i Gadeirydd y Pwyllgor, Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd a Thrysorydd y Gronfa (Swyddog Adran 151 Cyngor Sir y Fflint). Petai unrhyw broblem sylweddol yn codi o’r gwaith archwilio oedd yn weddill, byddai’n cael ei adrodd i gyfarfod brys o’r Pwyllgor cyn ei gymeradwyo.
Cadarnhaodd bod yr unig newid yn yr Adroddiad Blynyddol ers y cyfarfod diwethaf, heblaw am unrhyw faterion yn codi o’r archwiliad, yn ymwneud â nodi awdurdodaeth Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r cap ymadael.
Roedd y Gronfa hefyd yn trafod gydag Archwilio Cymru i ystyried amserlen Adroddiad Blynyddol 2021/22 er mwyn osgoi’r angen am gymeradwyaeth ddirprwyedig cyn belled â bod hynny’n bosibl.
Diolchodd Mr Ferguson i’r tîm am eu gwaith hyd yn hyn ar yr Adroddiad Blynyddol a nododd y gofyniad am ddirprwyaeth i’w gymeradwyo.
Dywedodd Mrs Phoenix fod y lefel o fateroliaeth yn ystod yr archwiliad tua £22.2m, yn seiliedig ar werth yr asedau yn y cyfrifon drafft. Fe gadarnhaodd fod tîm Archwilio Cymru yn parhau i fod yn annibynnol o’r Gronfa. Nid oedd yr archwiliad wedi dod o hyd i unrhyw broblemau sylweddol na sylwi ar unrhyw gamgymeriadau oedd angen eu hadrodd i’r Pwyllgor. Cytunwyd ar fân newidiadau gyda’r Gronfa, ond nid oedd yr un ohonynt yn effeithio ar Gyfrif Cronfa ddrafft na’r Datganiad Asedau Net. Fe gadarnhaodd ei bod yn fodlon â’r trefniadau i gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi diweddariad y cynnydd ar Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Gronfa; a
(b) Cymeradwyodd y Pwyllgor y ddirprwyaeth i gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol (yn cynnwys y cyfrifon) i Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau, Swyddog Adran 151 Cyngor Sir y Fflint (Trysorydd y Gronfa) a Phennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd, ar yr amod nad oedd yna unrhyw newidiadau mawr yn cael eu gwneud.