Mater - penderfyniadau

Void Properties within the Housing Revenue Account

20/12/2021 - Void Properties within the Housing Revenue Account

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) yr adroddiad diweddaru o ran eiddo gwag a reolir gan y Gwasanaeth Tai ac Asedau.

 

Wrth fanylu ar feysydd allweddol o’r adroddiad, rhoddodd gefndir ar y rhesymau amrywiol dros eiddo yn mynd yn wag, effaith y pandemig a phwysigrwydd rheoli eiddo gwag yn effeithiol.   Rhannwyd gwybodaeth hefyd am y newidiadau a gyflwynwyd o fewn y gwasanaeth Tai a pherfformiad eiddo gwag dros y pum mlynedd diwethaf. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau wybodaeth am y rhesymau dros derfynu tenantiaeth a’r gwaith a wnaed o ran hyn.   Bu iddi hefyd egluro’r dull o reoli eiddo a oedd yn anodd eu gosod a manteision y tîm i ailstrwythuro o ran rheoli pob elfen o faterion y gymdogaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar ymddygiad gwrthgymdeithasol gan y Cynghorydd Brian Lloyd, dywedodd swyddogion bod y tîm gorfodaeth yn parhau i weithio gyda’r Heddlu i fynd i’r afael â materion o’r fath a bod y preswylwyr yn cael eu hannog i adrodd ar ddigwyddiadau yn gynharach i gefnogi’r gwaith o gasglu tystiolaeth.

 

Wrth godi pryderon am golli rhent sy’n gysylltiedig ag eiddo gwag, awgrymodd y Cynghorydd Kevin Rush y dylid cael categori ychwanegol rhwng eiddo gwag ‘arferol’ a ‘mawr’ i wella amseroedd cwblhau eiddo gwag.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) mai 20 diwrnod oedd y targed ar gyfer cwblhau gwaith eiddo gwag arferol a bod yr holl eiddo gwag yn cael eu harchwilio a bod gwaith yn cael ei drefnu; os mai dim ond gwaith mân oedd ei angen yna efallai mai dim ond 5 diwrnod neu lai byddai’n cymryd i’w drosglwyddo i reoli tai.   Roedd y targed hwn yn bennaf yn berthnasol i’r tîm eiddo gwag mewnol ac fel gellir ei weld o’r adroddiad, roedd y targed hwn yn cael ei fodloni.   Rhoddodd sicrwydd i’r Aelodau o’r ymrwymiad i ddod ag eiddo at y safon ofynnol wrth flaenoriaethu diogelwch a chydymffurfiaeth gyda’r rheoliadau.   Bu iddo hefyd egluro y byddai defnyddio Cymorthyddion Digidol Personol (PDAs) yn rhoi gwybodaeth glir i nodi unrhyw faterion perfformiad.

 

Fel y gofynnwyd gan y Cynghorydd Adele Davies-Cooke, rhannwyd gwybodaeth am y cymorth a’r arweiniad a roddwyd i denantiaid newydd i’w helpu i reoli eu heiddo.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Kevin Rush a’u heilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad o ran eiddo gwag a reolir gan y Gwasanaeth Tai ac Asedau.