Mater - penderfyniadau

Governance and Audit Committee Self-Assessment

07/02/2022 - Governance and Audit Committee Self-Assessment

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad ar ganlyniadau’r hunanasesiad a wnaed gan y Pwyllgor ym mis Hydref yn ystod gweithdy ar-lein.  Roedd y canlyniadau cyffredinol yn gadarnhaol a byddent yn bwydo i mewn i baratoadau’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021/22.

 

Cynigiodd Sally Ellis yn ffurfiol bod y camau gweithredu oedd yn deillio o’r gweithdy’n cael eu rhoi ar waith fel sail i’r Pwyllgor ddatblygu ymhellach.  Yngl?n â rhyngweithio â Throsolwg a Chraffu, gofynnodd i ganlyniadau eitemau a atgyfeiriwyd i’w trafod gael eu hadrodd yn ôl er mwyn i’r Pwyllgor hwn allu dod o hyn i unrhyw gamau o fewn ei gylch gwaith ei hun.  Dywedodd hefyd fod angen mwy o eglurder am y broses i uwchgyfeirio problemau perfformiad gwael sy’n cael eu nodi mewn adroddiadau archwilio.

 

Yngl?n â’r mater diwethaf hwnnw, byddai’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yn trafod opsiynau gyda’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg a ddywedodd fod disgwyl i reolwyr gwasanaeth atgyfeirio unrhyw adroddiadau sicrwydd cyfyngedig (coch) at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol.  Yngl?n â’r pwynt cyntaf, cadarnhaodd y byddai canlyniadau o’r hunanasesiad yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol a fyddai’n cael ei gyflwyno i gael ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Rhagfyr.

 

Cytunwyd wedyn y dylai paratoadau ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol gynnwys adolygiad o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor i sicrhau bod y cylch gwaith yn cael ei gyflawni.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Arnold Woolley a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi a datblygu’r canlyniadau a’r gofynion hyfforddiant oedd yn y cynllun gweithredu, yn deillio o’r hunanasesiad.