Mater - penderfyniadau

Strategic Equality Plan Annual Report

13/01/2022 - Strategic Equality Plan Annual Report

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi cyhoeddi ei amcanion cydraddoldeb a’i Gynllun Cydraddoldeb Strategol pedair blynedd fis Ebrill 2020, i fodloni gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus fel y’u hamlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Nod yr amcanion cydraddoldeb yw mynd i’r afael â'r materion a’r meysydd mwyaf arwyddocaol o anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl gyda nodweddion a ddiogelir (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol).

 

Mae dyletswyddau penodol Deddf Cydraddoldeb 2010 i Gymru yn cynnwys cyhoeddi adroddiad blynyddol erbyn 31 Mawrth pob blwyddyn, sy’n amlinellu’r cynnydd wrth gwrdd â’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a chyflawni’r amcanion cydraddoldeb. Mae’r adroddiad hwn yn amlygu cynnydd y Cyngor wrth roi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar waith a chyflawni’r amcanion cydraddoldeb yn ystod 2020/2021.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai hwn yw’r adroddiad blynyddol cyntaf sy’n amlinellu’r cynnydd tuag at gyflawni pob un o amcanion cydraddoldeb y Cyngor a’i fod yn cynnwys gwybodaeth benodol am gyflogaeth, gan gynnwys gwybodaeth am hyfforddiant a chyflog. Eglurodd y Swyddog Datblygu Polisi – Cydraddoldeb fod y cynnydd sydd wedi’i wneud i gyflawni'r saith amcan cydraddoldeb wedi’i amlinellu yn yr atodiad i’r adroddiad. Yn ogystal, mae’r adroddiad eglurhaol yn amlinellu’r llwyddiannau wrth ymgymryd â’r dyletswyddau cydraddoldeb yn 2020/21.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor yn gweithio drwy geisio annog pob gweithiwr i ddarparu gwybodaeth am eu rhyw, ond bod yn rhaid cydnabod nad yw pawb yn teimlo’n gyfforddus yn darparu’r wybodaeth honno.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad, yn enwedig yr adran yn ymwneud â chaffael a fanylir arni yn yr atodiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd yn ystod y flwyddyn i gyflawni’r dyletswyddau statudol mewn perthynas â chydraddoldeb;

 

(b)       Cefnogi’r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020/2021, cyn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor.