Mater - penderfyniadau

People and Organisational Development Strategy 2022-2025

22/02/2022 - People and Organisational Development Strategy 2022-2025

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygiad Sefydliadol, adroddiad ar y blaenoriaethau strategol ar gyfer Strategaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol newydd ar gyfer 2022-25.

 

Er bod yr ymateb i’r pandemig wedi tarfu ar adolygu’r Strategaeth Pobl presennol, roedd nifer o ganlyniadau cadarnhaol yn deillio o’r newidiadau mewn arferion gweithio a ellir eu datblygu ymhellach.   Byddai’r Strategaeth newydd yn amlinellu uchelgeisiau cynyddol ar gyfer y gweithlu a’r sefydliad, gan adlewyrchu ar ddigwyddiadau dros y 18 mis diwethaf ac adeiladu ar feysydd o arfer da.   Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r ffactorau allanol allweddol a chanlyniadau sy’n debygol o gael eu darparu dan bob thema a fyddai’n aros yn hyblyg i addasu i unrhyw newidiadau ac ymateb i risgiau fel recriwtio a chadw staff.

 

Canmolodd y Cynghorydd Arnold Woolley yr adroddiad ond roedd yn bryderus am y diffyg gwybodaeth ar werthusiadau blynyddol.   Mewn ymateb, rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol sicrwydd bod hyn wedi’i gynnwys drwy gyflwyno rhaglen adolygu perfformiad newydd ar sail gwerthoedd.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at bwysigrwydd y Strategaeth o ran sicrhau bod gweithwyr ar bob lefel yn deall eu rolau a’u cyfranogiad yn glir o fewn y sefydliad ac y byddai fframio uchelgeisiau fel cyflogwr delfrydol yn helpu i greu diwylliant gweithlu cadarnhaol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Arnold Woolley a Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r blaenoriaethau strategol fel sylfaen ar gyfer datblygu iteriad nesaf y Strategaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol 2022-2025 cyn iddo gael ei roi i weithwyr ac Undebau Llafur ar gyfer ymgynghoriad ac adborth, cyn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.