Mater - penderfyniadau
Becoming a County of Sanctuary
04/11/2021 - Becoming a County of Sanctuary
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i'r Cyngor ynghylch dod yn aelod heb ddyfarniad o City of Sanctuary. Roedd y rhwydwaith hwn wedi datblygu i ddod yn fudiad rhyngwladol y gallai Sir y Fflint gyfrannu ato trwy ei hanes cryf o gefnogi ffoaduriaid ac adeiladu ar lansiad Sir Noddfa Sir y Fflint yn 2018. Roedd yr argymhelliad i'r Cyngor ddod yn aelod heb ei ddyfarnu o'r mudiad yn cynrychioli ymrwymiad i ymuno â gweledigaeth a gwerthoedd y mudiad wrth weithio tuag at y wobr.
Wrth symud yr argymhelliad, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod y gwerthoedd yn cael eu rhannu gan y Sir. Fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Christine Jones.
Hefyd yn siarad o blaid, mynegodd y Cynghorwyr Hilary McGuill a Chris Bithell eu balchder yng nghefnogaeth y Sir i ffoaduriaid a’r rhai sy’n ceisio noddfa.
Cafodd yr argymhelliad ei roi i'r bleidlais a'i gynnal.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn dod yn aelod o'r mudiad heb ddyfarniad ac wrth wneud hynny, mae'n arwyddo gweledigaeth a gwerthoedd City of Sanctuary.