Mater - penderfyniadau

Amendments to the Planning Code of Practice

05/08/2022 - Amendments to the Planning Code of Practice

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi diweddaru’r Protocol Cwrdd â Chontractwyr ym mis Ebrill 2021 fel rhan o adolygiad y cyfansoddiad. Mae’r rhannau sy’n ymwneud â delio gyda chontractwyr/datblygwyr a thrydydd parti a all fod yn cynnig neu’n ceisio am gontract gyda’r Cyngor wedi’u diwygio. Penderfynodd y Cyngor y dylid symud y rhannau sy’n ymwneud â chysylltu gyda chontractwyr i’r Cod Ymarfer Cynllunio er mwyn osgoi dyblygu.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol mai’r rhannau sy’n darparu cyngor mewn perthynas â datblygwyr sy’n cael eu symud i’r Cod Ymarfer Cynllunio, ac y byddai’r Cod Ymarfer Cynllunio yn cael ei ddiwygio fel y bo’n briodol.

 

Yn ystod cyfarfod y Cyngor ym mis Ebrill 2021, ble cymeradwywyd y protocol diwygiedig, gofynnodd yr Aelodau hefyd am gynnwys cyngor yn y Cod Ymarfer Cynllunio ar y broses ymgynghori cyn cyflwyno cais.

 

Ystyriwyd y newidiadau arfaethedig uchod gan y Gr?p Strategaeth a gofynnwyd am addasiadau ychwanegol i’r Cod Ymarfer Cynllunio a fyddai o gymorth i Aelodau sy’n ymwneud â’r broses gynllunio.

 

Ar 5 Gorffennaf 2021 cynigiodd y Pwyllgor Safonau ragor o ddiwygiadau. Ystyriodd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd y Cod Ymarfer Cynllunio diwygiedig ar 30 Medi 2021, a’i gymeradwyo yn amodol ar rai newidiadau pellach.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Bithell, mewn perthynas ag 8.1 – ymgynghoriadau cyn cyflwyno cais cynllunio, y dylid ychwanegu ‘pan fydd y cais yn cael effaith sylweddol ar ward yr Aelod’ ar ôl ‘bydd Aelod y ward cyfagos yn cael ei wahodd i’r cyfarfod’. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol fod yr awgrym yn cyd-fynd â gweddill y ddogfen. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y penderfyniad ynghylch beth fydd yn digwydd yn cael ei wneud yn naturiol fel rhan o’r broses.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hardcastle, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol fod adran 9.3.5 yn ymwneud ag ymweliadau â safleoedd a nodiadau briffio a wneir ar unrhyw bwynt a godir.

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Phillips a’i eilio gan y Cynghorydd Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r diwygiadau i’r Cod Ymarfer Cynllunio, fel yr amlygir yn yr atodiad; a

 

(b)       Ychwanegu ‘pan fydd y cais yn cael effaith sylweddol ar ward yr Aelod’ ar ôl ‘bydd Aelod y ward cyfagos yn cael ei wahodd i’r cyfarfod’ yn 8.1.