Mater - penderfyniadau

Comments, Compliments and Complaints

17/05/2022 - Annual report on the Social Services Complaints and Compliments Procedure 2020-21

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm - Perfformiad yr Adroddiad Blynyddol Statudol ar Gwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn cynnwys cwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.   Dywedodd yn debyg i’r flwyddyn flaenorol, roedd 93 o gwynion a 721 canmoliaeth wedi eu derbyn, oedd bron yn ddwbl y flwyddyn flaenorol. 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod nifer y canmoliaethau a dderbyniwyd wedi bod yn eithriadol a bod yr adroddiad yn un o’r gorau yr oedd wedi’i ddarllen, a chytunodd y Pwyllgor. 

 

Yna gofynnodd y Cadeirydd pam bod y canmoliaethau bron wedi dyblu o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol o fewn y Tîm Plant i Oedolion Gwasanaethau Plant.   Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Anabledd ac Iechyd Meddwl nad oedd y cwynion wedi eu cyfeirio at y Gwasanaeth ond sut oedd y rhieni yn teimlo adeg y sefyllfa.    Roedd rhieni wedi ei chael hi’n anodd yn ystod y cyfnod clo oherwydd llai o gapasiti ac mewn rhai achosion cau cyfleusterau ac yn ei chael hi’n anodd bod gartref gyda phlant gydag ymddygiad heriol.

 

Roedd yr Arweinydd Tîm - Perfformiad wedi cytuno i anfon crynodeb o’r canmoliaethau i’r Pwyllgor. 

 

Roedd y Cynghorydd Gladys Healey yn canmol staff am y ffordd yr oeddent yn cynnal eu hunain gyda’u cleientiaid gan nad oedd unrhyw gwynion am barch o fewn gofal cymdeithasol oedolion.   Ychwanegodd y dylai tâl ac amodau i Weithwyr Gofal wella i leddfu’r broblem gyda phrinder staff.

 

Mewn ymateb i’r Cynghorydd Gladys Healey, dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu nad oedd unrhyw dystiolaeth o amgylch y gwyn am gyfathrebu gwael o fewn Gwasanaethau Plant ac yn dilyn ymchwiliad canfuwyd ei fod oherwydd y ffaith fod plentyn wedi gorglywed sgwrs oedolyn yn y cartref.

 

Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) eisiau diolch i’r tîm am ymateb o fewn amserlen Gwasanaethau Oedolion a Phlant o ystyried yr amgylchiadau yn ystod y flwyddyn. 

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Cunningham ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod effeithiolrwydd gweithdrefn gwynion a’r gwersi a ddysgwyd i wella darpariaeth gwasanaeth yn cael ei nodi.