Mater - penderfyniadau
Governance Update and Consultations
24/11/2021 - Governance Update and Consultations
Nododd Mrs McWilliam y diweddariad ac fe ychwanegodd:
- Fel a amlinellir ar dudalen 261, gan ymateb i ymgynghoriad a gynhaliwyd ar gyfer y system rheoli costau, cymeradwyodd y Cadeirydd ac uwch swyddogion ymateb gan y Gronfa i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio dirprwyaethau brys.
- Roedd tudalen 248 yn dangos cyfran presenoldeb aelodau’r Pwyllgor mewn sesiynau pynciau llosg.Roedd cyfleoedd hyfforddiant pellach i’w gweld ar dudalen 265.
- Roedd Aelodau wedi cael e-bost gan Mrs Fielder am ddigwyddiad CIPFA, a agorwyd i aelodau’r Pwyllgor eleni.Anogwyd yr Aelodau i fynychu’r sesiwn dros y we ar 8 Hydref.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn ystyried a nodi’r diweddariad.