Mater - penderfyniadau

Draft Annual Report including Accounts

24/11/2021 - Draft Annual Report including Accounts

            Nododd Mr Vaughan fod angen i’r adroddiad blynyddol gael ei lunio erbyn 1 Rhagfyr bob blwyddyn ac felly, cyflwynwyd y drafft i’w ystyried.Amlygodd y pwyntiau allweddol canlynol o’r adroddiad blynyddol:

 

-       Roedd yr adroddiad yn cwmpasu blwyddyn 2020-2021 pan oedd effaith COVID-19 yn amlwg.

-       Gwnaeth y buddsoddiadau ddychwelyd 7.1% y flwyddyn dros y tair blynedd at 31 Mawrth 2021, o’i gymharu â meincnod o 7.7% y flwyddyn.

-       Bu canolbwynt cynyddol ar nodi ôl-troed carbon a blaenoriaethau buddsoddi cyfrifol.Roedd rhagor o fanylion ar dudalen 83.

-       Gwnaeth y tîm gweinyddu gwblhau tua 30,000 o achosion aelodau yn ystod y flwyddyn.Roedd y tîm hefyd wedi bod yn gweithio ar wella ansawdd data, dangosyddion perfformiad allweddol (DPA), parhau â chyflwyno iConnect, prosiect GMP ac effaith datrysiad McCloud.Roedd rhagor o fanylion ar dudalen 57.

-       Cyfanswm cyfraniadau am y flwyddyn gan aelodau a gweithwyr oedd tua £85 miliwn, gyda buddion a thaliadau eraill i aelodau oddeutu £83 miliwn.Cyfanswm y costau rheoli a dalwyd gan y Gronfa oedd £22 miliwn.Yn ogystal, yr enillion net ar fuddsoddiadau oedd tua £469 miliwn.Yn gyffredinol, asedau net terfynol y cynllun ar 2020/21 oedd £2.226 biliwn.

-       I grynhoi, roedd sefyllfa ariannol y Gronfa wedi gwella yn ystod y flwyddyn, ac roedd y Gronfa yn parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i aelodau a chyflogwyr.

 

Eglurodd Mr Vaughan fod yr Adroddiad Blynyddol, sy’n cynnwys y cyfrifon, angen ei archwilio a’i awdurdodi erbyn diwedd mis Tachwedd er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau.Roedd yn annhebygol y byddai’r archwiliad yn cael ei gwblhau mewn pryd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol wedi’i archwilio’n llawn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10 Tachwedd i’w awdurdodi. Felly cynigiwyd y byddai diweddariad yn y cyfarfod hwnnw, ac y byddai cytundeb o ran unrhyw newidiadau pellach cyn diwedd mis Tachwedd yn cael ei ddirprwyo i Gadeirydd y Pwyllgor a Swyddog Adran 151 Cyngor Sir y Fflint.

 

Ychwanegodd Mrs Phoenix ei bod yn ffyddiog y byddai Archwilio Cymru yn cyrraedd dyddiad cau mis Rhagfyr, er nad oedd y tîm archwilio yn gallu dechau’r archwiliad tan fis Hydref.Fodd bynnag, cadarnhaodd nad yw’r tîm archwilio yn debygol o gymeradwyo’r cyfrifon cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10 Tachwedd oherwydd y dyddiad dechrau hwyr, fodd bynnag, byddai diweddariad ar lafar am gynnydd yr archwiliad yn cael ei ddarparu.

Diolchodd Mr Everett i’r tîm am baratoi’r adroddiad.Fodd bynnag, mynegodd ei bryderon ynghylch y ffaith fod yr archwiliad yn hwyr.O ran mân addasiadau terfynol i’r cyfrifon, roedd Mr Everett yn cefnogi’r dirprwyaethau arfaethedig pe bai angen.

            Ar dudalen 82, gofynnodd Mr Hibbert am eglurhad am y rheoliadau cap ymadael o ran Llywodraeth Cymru.Nododd Mr Middleman eu bod yn aros am ganlyniadau’r trafodaethau am y cap ymadael a bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.Roedd Mr Hibbert yn pryderu am ddiffyg cyfeiriad at ddull Llywodraeth Cymru yn yr adroddiad blynyddol yn y cyd-destun hwn.Cytunodd Mr Everett a dywedodd Mr Vaughan y byddent yn ychwanegu geiriad er mwyn egluro bod gan Lywodraeth Cymru awdurdodaeth ac felly sefyllfa wahanol o bosibl i liniaru effaith y cap ymadael.

Cyfeiriodd Mr Vaughan at Atodiad 2 yr adroddiad, sef ymateb drafft i lythyr ymholiadau archwilio arferol gan Archwilio Cymru.

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol drafft y Gronfa ar gyfer 2020/21, gan gynnwys y Datganiad Cyfrifon drafft a chytuno ar y diwygiad o ran y cap ymadael.

(b)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r llythyr ymholiadau Archwilio a’r ymateb.