Mater - penderfyniadau

Budget 2022/23 - Stage 2 (E&E OSC)

07/02/2022 - Budget 2022/23 - Stage 2

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad am ail gam y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.

 

Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir a chyd-destun.  Roedd adroddiad i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf yn rhoi diweddariad ar sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Roedd y pwysau costau a nodwyd wedi eu cyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chais eu bod i gyd yn cynnal adolygiad trwyadl.  Cafodd manylion y pwysau o ran costau ar gyfer Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi, a Gwasanaethau Stryd a Chludiant eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) a'r Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant), gyflwyniad ar y cyd a oedd yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn:

           

  • Pwrpas a chefndir
  • Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau o ran Costau

ØPwysau o ran costau Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi a Gwasanaethau Stryd a Chludiant 2022/23

ØPwysau Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

ØPwysau Gwasanaethau Stryd a Chludiant

  • Datrysiadau Strategol
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithlonrwydd
  • Amserlenni Cyllideb

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andy Hughes, dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi fod trafodaethau yn parhau gyda Rali Cymru Prydain Fawr a'u bod yn awyddus i ddod yn ôl i Sir y Fflint a bod Sir y Fflint yn cynnal y digwyddiad.  Dywedodd fod angen sicrhau bod y gwariant lleol yn digwydd gyda'r sector lletygarwch yn Sir y Fflint. Ychwanegodd fod Rali Cymru Prydain Fawr wedi ymrwymo i ddychwelyd i Sir y Fflint.

 

Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn cefnogi’r buddsoddiad yn y parciau.  Gan gyfeirio at Parc Gwepra, Cei Connah, gofynnodd a oedd unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i bobl nad oeddent yn breswylwyr wneud cyfraniad at gynnal a chadw'r Parc gan fod y defnydd wedi cynyddu'n sylweddol yn dilyn llacio cyfyngiadau o amgylch Covid.  Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) fod trafodaeth barhaus yn digwydd gyda'r bwriad o ddatblygu Parc Gwepra.  Byddai cynlluniau'n dod ymlaen a byddai ymgynghori'n digwydd gyda'r gymuned leol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson at Safle Tirlenwi Standard, Bwcle, a dywedodd nad oedd yn ymddangos bod ymrwymiad i ddatblygu’r safle ar gyfer hamdden wedi dwyn ffrwyth.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Hutchinson at ddefnyddio paneli solar ac uwchraddio llwybrau troed.   Dywedodd y Prif Swyddog, Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi na wnaed unrhyw ymrwymiad i ble y byddai cyllid yn cael ei wario hyd yma ac y byddai safle tirlenwi Standard yn cael ei ystyried i weld a oedd yn lle priodol ar gyfer buddsoddi a'r buddion a fyddai'n deillio.

  

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r pwysau o ran costau Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi pwysau o ran costau’r Gwasanaethau Stryd a Chludiant; a

 

 (c)      Nad yw'r Pwyllgor yn cynnig unrhyw feysydd arbed costau pellach i’w harchwilio ymhellach.