Mater - penderfyniadau
North Wales Economic Ambition Board - Annual Report
28/10/2021 - North Wales Economic Ambition Board - Annual Report
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Blynyddol Swyddfa Rheoli Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru 2020-21. Roedd y gofyniad i adrodd yn flynyddol ar y cynnydd yn rhan o Gytundeb Bargen Terfynol y Bargen Dwf Gogledd Cymru a lofnodwyd ym mis Rhagfyr 2020.
Rhoddodd y Rheolwr Arloesi ac Adfywio cyflwyniad yn crynhoi gwaith y Swyddfa Rhaglen yn ystod y 12 mis diwethaf a oedd yn cynnwys:
· Portffolio Bargen Twf
· Y Rhaglenni
o Digidol
o Tir ac Eiddo
o Ynni Carbon Isel
o Arloesedd mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel
o Bwyd-amaeth a Thwristiaeth
· Adroddiad Blynyddol
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett a Patrick Heesom.
PENDERFYNWYD:
I nodi Adroddiad Blynyddol Swyddfa Rheoli Portffolio'r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer 2020-21.