Mater - penderfyniadau
Internal Audit Progress Report
30/08/2022 - Internal Audit Progress Report
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad rheolaidd yn dangos cynnydd ar y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol. Rhoddwyd trosolwg o’r ddau adroddiad Oren Coch (rhywfaint o sicrwydd) a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod ar Reoli Risg a Defnyddio Gweithwyr Asiantaeth, ac roedd yr adroddiad Coch yn unig (sicrwydd cyfyngedig) wedi’i gynnwys fel eitem ar wahân ar y rhaglen.
Mynegodd y Cadeirydd bryderon am ddiffyg cynnydd ar rhai o’r camau blaenoriaeth uchel oedd yn hwyr yn cynnwys colli trwyddedau ‘O’. Fe soniodd y Rheolwr Archwilio Mewnol am weithredoedd ers cyhoeddi’r adroddiad a fyddai’n cael eu cau ar ôl i dystiolaeth gael ei adolygu. Fe eglurodd bod y nifer cynyddol o weithredoedd coch am yr archwiliad ar gyfer Trefniadau Cytundebau Maes Gwern yn debygol o fod oherwydd yr ail ddyddiad targed wedi’i fethu.
Roedd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yn rhannu’r un pryderon â’r Cadeirydd. Fe soniodd am y dyddiadau targed diwygiedig. Roedd y Rheolwr Archwilio Mewnol yn cydnabod bod angen rhagor o welliant er mwyn lleihau’r nifer o weithredoedd oedd heb eu cyflawni a oedd yn parhau’n flaenoriaeth i’r tîm. Rhoddodd eglurhad am y broses yn cynnwys uwchgyfeirio camau gweithredu heb eu cyflawni i Brif Swyddogion ac adrodd am gynnydd yr oedd gan y Pwyllgor drosolwg ohonynt.
Gan ymateb i awgrym y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod trafodaethau wedi’u cynnal i osod targedau realistig i gwblhau camau gweithredu. Dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod yn cymryd diddordeb personol yn y mater yma, gan gydnabod pwysigrwydd rheoli risg o fewn y sefydliad.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst a’r Cynghorydd Glyn Banks.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.