Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
16/03/2022 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried. Yn unol â chais Sally Ellis, cytunodd i gysylltu â swyddogion er mwyn dwyn yr adroddiad ar Gwynion Corfforaethol ymlaen a threfnu eitem ar Leihau Carbon ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
Yngl?n ag adroddiad Archwilio Cymru ar Gomisiynu Lleoliadau i Bobl H?n mewn Cartrefi Gofal, sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Mawrth, eglurodd Gwilym Bury bod adroddiadau rhanbarthol a chenedlaethol ar gael ar wefan Archwilio Cymru.
Diolchodd Allan Rainford i’r swyddogion am drefnu’r eitem ar Gyllideb 2023/24 ar gyfer mis Medi ac awgrymodd ei ddwyn ymlaen os oedd hynny’n bosibl. Atgoffodd y swyddogion mai pwrpas yr adroddiad oedd galluogi’r Pwyllgor i ddeall y risgiau a’r heriau ar y cam hwnnw o broses y gyllideb.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Arnold Wolley a’u heilio gan y Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
(a) Diwygio’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol yn ôl yr angen; ac
(b) Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.