Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
07/02/2022 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y byddai’r newid a gytunwyd i amseriad yr Adroddiad Cynnydd yn cael ei gynnwys ynghyd â’r adroddiad am gwynion y gofynnwyd amdano gan Sally Ellis.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford am oruchwyliaeth y Pwyllgor o baratoadau ar gyfer cyflwyno Cod Rheolaeth Ariannol newydd, byddai’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn adrodd yn ôl ar ôl trafod â chydweithwyr ar draws y rhanbarth.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Martin White a Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, wrth ymgynghori â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.