Mater - penderfyniadau

Annual Audit Summary for Flintshire County Council 2020/21

22/03/2022 - Annual Audit Summary for Flintshire County Council 2020/21

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y Crynodeb Archwilio Blynyddol ar gyfer 2020/21, oedd yn crynhoi darganfyddiadau’r gwaith archwilio a rheoleiddio a wnaed yn y Cyngor gan Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad wedi dod i gasgliad cadarnhaol fod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol oedd yn weddill ar gyfer cynllunio gwelliannau ac adrodd yn ystod y cyfnod. Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol ac roedd gwaith ar y gweill ar y ddau gynnig ar gyfer gwelliant yn codi o un o’r adolygiadau.

 

Cydnabu’r adroddiad effaith y pandemig ar y wybodaeth gymharol am berfformiad, pwyslais y Cyngor ar wella gwytnwch ariannol a threfniadau adferiad gwasanaethau, dan oruchwyliaeth y Pwyllgor Adferiad. Tynnwyd sylw at y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer 2021-22 yn cynnwys y materion allweddol oedd yn wynebu bob Cyngor yn dilyn y pandemig.

 

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol, yn unol â’r protocol adrodd, y byddai’r Cabinet yn cytuno ar ymateb y Cyngor cyn i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei ystyried, pan fyddai’r adroddiad rheoleiddio allanol blynyddol hefyd yn cael ei rannu, yn cynnwys manylion ar y camau gweithredu o’r cynigion ar gyfer gwella.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Andy Williams a'i eilio gan y Cynghorydd Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan gynnwys ac arsylwadau Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2020/21.